Enillodd Sioe Awyr y Rhyl, a ddychwelodd eleni ar ôl saib o ddwy flynedd, wobr ‘Digwyddiad Gorau’r Flwyddyn’ yng Ngwobrau Twristiaeth Go North Wales 2022, mewn seremoni fawreddog yn Llandudno.  Roedd y wobr yn cydnabod digwyddiad oedd wedi ‘creu effaith economaidd ac wedi gwella proffil y dref lle cafodd ei gynnal’.

Mae’r Sioe Awyr yn ddigwyddiad hynod boblogaidd sy’n cael ei drefnu a’i gynnal gan dîm digwyddiadau bach o fewn Hamdden Sir Ddinbych Cyf., ac mae’n denu miloedd o ymwelwyr i’r Rhyl bob blwyddyn, o selogion awyrennau i’r rhai sy’n dod i fwynhau’r awyrgylch a’r lleoliad ar lan y môr, a phawb yn y canol.  Bu’r tîm, gyda chefnogaeth byddin o wirfoddolwyr, yn gweithio’n hynod galed i drefnu dau ddiwrnod llawn o arddangosfeydd cyffrous. 

Roedd ymwelwyr eleni wrth eu boddau’n gweld y Red Arrows, â’u perfformiadau gwych fel y brif arddangosfa ar y ddau ddiwrnod – am y tro cyntaf yn y Rhyl.  Hefyd yn un o’r prif ddigwyddiadau oedd yr Eurofighter Typhoon a’r awyren fomio Lancaster, ynghyd â nifer o bethau i’w gweld ar y tir.  Gwnaed amcangyfrif bod tua 100,000 o bobl wedi bod i’r digwyddiad ar y ddau ddiwrnod, a fydd heb os wedi rhoi hwb i sawl busnes yn y dref a’r ardal gyfagos.

Eleni, fe wnaeth Hamdden Sir Ddinbych Cyf. ehangu darpariaeth y Sioe Awyr drwy gynnig pecynnau corfforaethol yn eu prif fwyty, Bwyty 1891, gyda golygfeydd arbennig o’r Sioe, ac fe aeth y tocynnau i gyd. Hefyd yn rhan o’r pecyn oedd parti steil Ibiza ar ôl y Sioe ar y Teras, yn cynnig cerddoriaeth fyw, bwyd a choctêls, oedd yn golygu bod y Promenâd a Rhyl ei hun yn brysur gyda’r nos hefyd.

Dywedodd Jamie Groves, y Rheolwr Gyfarwyddwr, “Mae cynnal digwyddiad mawr yn llwyddiannus bob tro’n gamp, ond roedd ailgychwyn ar ôl y pandemig yn golygu bod angen i’r tîm fynd yr ail filltir i gynnal chwip o ddigwyddiad dros ddeuddydd, nid yn unig i’r cwsmeriaid, ond i’r dref ei hun.  Rydyn ni’n falch iawn o gyflawniadau’r tîm, a hoffem hefyd ddiolch i’r holl sefydliadau fu ynghlwm â’r digwyddiad, yn enwedig Cyngor Sir Ddinbych a Chyngor Tref y Rhyl – heb eu cyfraniad hael a’u cefnogaeth nhw, ni fyddai posib’ cynnal y digwyddiad.”