Mae Hamdden Sir Ddinbych Cyf (DLL) yn falch iawn o gyhoeddi bod tocynnau nawr ar werth ar gyfer y cynhyrchiad cerddorol cyffrous yn y Gymraeg, Dosbarth Miss Prydderch a Lleidr y Lleisiau, yn Theatr Pafiliwn y Rhyl.
 
Mae Dosbarth Miss Prydderch a Lleidr y Lleisiau yn gynhyrchiad Theatr Cymru, Yr Egin a Chwmni Theatr Arad Goch, gyda chefnogaeth Theatrau Sir Gâr. Mae’r sioe gerdd newydd hudolus hon yn dod ag anturiaethau a chymeriadau’r gyfres lyfrau annwyl i’r llwyfan, gyda sgript newydd sbon gan Mererid Hopwood a cherddoriaeth fywiog gan Seiriol Davies.
 
Cynhelir y sioe ddeniadol hon, sydd wedi’i hanelu at grwpiau ysgol a theuluoedd, ddydd Mawrth, 30 Mehefin, 2026 a phris y tocynnau yw £11 y sedd.
 
Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr DLL: “Rydym wrth ein bodd yn croesawu’r sioe Gymraeg wych hon i Bafiliwn y Rhyl. Mae’r perfformiad hwn yn cynnig cyfuniad perffaith o adloniant a dysgu, ac rydym yn annog ysgolion i archebu eu tocynnau’n gynnar ar gyfer yr hyn sy’n siŵr o fod yn sioe boblogaidd.”
 
I archebu eich tocynnau, ewch i wefan Theatr Pafiliwn y Rhyl neu cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau’n uniongyrchol ar 01745 330000.