Stiwdio Cardio o’r radd flaenaf yn cael ei lansio fel rhan o ddatblygiad £1miliwn Clwb y Rhyl
Mae ail gam y gwaith adnewyddu gwerth £1 miliwn gan DLL bellach wedi’i hen ddechrau, yn dilyn lansiad llwyddiannus campfa ymarfer cryfder newydd sbon Clwb y Rhyl ddechrau’r flwyddyn.
Yr ystafell Cardio newydd yw’r datblygiad diweddaraf i agor i’r cyhoedd ac mae wedi’i chyfarparu â’r ystod Technogym Excite ddiweddaraf, gan gynnwys Excite Climb, Excite Synchro ac Excite Bike. Wedi’i labelu fel yr ‘offer cŵl a mwyaf soffistigedig yn y diwydiant’, mae’r offer newydd sbon hwn yn cyflwyno dosbarthiadau byw yn uniongyrchol i’r cwsmer ar sgrîn.
Bydd cwsmeriaid Clwb y Rhyl yn cael eu hysbrydoli gan y dewis newydd, ac yn cael eu gwahodd i ddysgu am yr offer a’r dechnoleg orau oll o heddiw ymlaen, dydd Llun 3ydd Chwefror.
Meddai Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr “Mae enw da DLL fel gweithredwr hamdden arloesol a blaengar yn y sector wedi parhau i ddatblygu, ac a hithau’n gyfnod heriol i nifer yn y sector hamdden, mae DLL unwaith eto yn mynd yn groes i dueddiadau cenedlaethol ac yn buddsoddi yn ei gyfleusterau. Rydym yn falch iawn gyda’r adborth gan gwsmeriaid ynghylch y datblygiadau yr ydym wedi’u gwneud yng Nghlwb y Rhyl hyd yma, a dim ond megis dechrau yr ydym ni mewn gwirionedd! Mae ein haelodau’n mwynhau ansawdd a gwerth digyffelyb, a bydd ein hymrwymiad i fuddsoddi yn ein cyfleusterau yn sicrhau bod Clwb y Rhyl yn parhau ar ei siwrnai tuag at fod yn un o’r clybiau ffitrwydd mwyaf cyffrous ac arloesol yn y wlad.”
Mae gan aelodau hyd yn oed mwy o ychwanegiadau cyffrous i Glwb y Rhyl yn yr ychydig fisoedd nesaf, gyda Stiwdio X, ein stiwdio HIIT newydd gyffrous ac ardal hyfforddi, bellach yn agor yn ystod wythnos gyntaf mis Mawrth.
Mae cam tri o’r datblygiad ym mis Ebrill ar y trywydd iawn, gan ychwanegu’r stiwdio Box 12 newydd a chyffrous, gan ddarparu gofod ymarfer deinamig, wedi’i ysbrydoli gan focsio, a Byrddau Tynhau Innerva, wedi’u cynllunio ar gyfer y rhai sydd eisiau gwella eu cryfder cyhyrol, cydbwysedd, hyblygrwydd a ffitrwydd cardiofasgwlaidd, ond sydd angen ymarfer corff effaith isel.