Denodd rhaglen hwyliog o weithgareddau’r Pasg filoedd o gwsmeriaid i atyniadau DLL ledled Sir Ddinbych dros wyliau’r Pasg.

Bu gwledd o weithgareddau yn cynnig digonedd o ddewis y Pasg hwn i gwsmeriaid DLL ac, wrth weld wynebau’n gwenu a’r adborth anhygoel, fe wnaeth DLL ddarparu penwythnos Pasg i’w gofio!

Cynhaliodd y Cwt Traeth, Prestatyn y cyntaf o’u partïon hwyl teuluol am ddim poblogaidd, ac er gwaethaf y rhagolygon tywydd heriol, arhosodd y prynhawn yn sych, gan ganiatáu i bawb bartïo mewn steil DLL go iawn! Drwy gydol y dydd, mynychwyd y digwyddiad gan gannoedd o gwsmeriaid o bob oed yn barod i ymuno â’r gweithgareddau teuluol hwyliog, a oedd yn cynnwys peintio wynebau a dawnsio i  draciau’r DJ preswyl.

Daeth adborth gwych wedi’r panto Pasg, Pinocchio, ym Mhafiliwn y Rhyl. Gyda thair sioe i’w mwynhau ar hyd ddydd Sadwrn a Sul y Pasg, roedd y panto yn llwyddiant ysgubol arall i’r Theatr. Mwynhaodd cwsmeriaid Bwyty a Bar 1891 noson gerddorol gyda’r dalent poblogaidd lleol, Kyle Parry, ar benwythnos prysur iawn i’r lleoliad, gyda’u cinio Sul arbennig yn ennill y brif wobr! Yn y cyfamser, cafodd ymwelwyr ag SC2, Y Rhyl hwyl fawr yn herio’r Gwningen Pasg ar arena Ninja TAG, ac wrth gwrs yn ei guro i frig y sgôrfwrdd! Bu helfa wyau dinosoriaid yn ardal Chwarae Antur i ddiddanu’r rhai bach, tra yn Nova, Prestatyn mwynhaodd cwsmeriaid iau hefyd helfa wyau yn yr ardal Chwarae Antur ar thema môr-ladron. Roedd ymwelwyr â Hamdden Prestatyn yn brysur yn ymuno ag IGames thema’r Pasg, Clip A Dringo a gweithgareddau celf a chrefft hwyliog i’r rhai bach.

Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr DLL ‘Roedden ni wrth ein bodd yn cynnal cymaint o ddigwyddiadau ar draws safleoedd DLL dros benwythnos y Pasg, ac i weld ein cwsmeriaid yn mwynhau eu hunain gyda ni. Hoffem ddiolch i bawb a fynychodd am eu cefnogaeth. Mae ein rhaglen ddigwyddiadau ar gyfer y flwyddyn newydd ddechrau, ac mae gennym ni gymaint wedi’i gynllunio ar gyfer y flwyddyn i ddod! Allwn ni ddim aros i chi ymuno â ni, a bydd yr holl fanylion sydd eu hangen arnoch chi ar gael ar ein sianeli cymdeithasol”.