Mae Hamdden Sir Ddinbych Cyf (DLL) wedi’u syfrdanu gan yr ymateb i ryddhau dros 600 o docynnau parc dŵr am ddim yn SC2.

Ar ôl rhyddhau 600 o docynnau am ddim y bore yma i drigolion lleol brofi parc dŵr dan do SC2 gyda ‘diwrnodau blasu’ cyffrous cyn yr agoriad y mis nesaf, cafodd yr holl docynnau eu cipio mewn llai na 30 munud.

Dros benwythnos 28ain – 29ain Mehefin, mae DLL yn gwahodd trigolion lleol am ddim i fwynhau’r parc dŵr fel ‘blas’ ar yr hyn sydd i ddod yr Haf hwn pan fydd y parc dŵr yn agor i’r cyhoedd.

Bydd y penwythnos teyrngarwch lleol unigryw hwn yn unig i’r gymuned ddod i brofi’r parc dŵr cyn yr Haf, fel diolch am eu cefnogaeth yn ystod yr amser y bu’r parc dŵr ar gau ar gyfer cynnal a chadw.

Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr DLL: “Rydym wedi cael 18 mis anodd iawn gyda’r parc dŵr ar gau ac ni allwn ddiolch digon i’n cymuned leol am eu cefnogaeth yn ystod yr amser anodd hwn. Rydym wedi penderfynu agor y parc dŵr dan do am ddau ddiwrnod a rhoi dros 600 o docynnau am ddim i ddangos ein diolchgarwch am eu cefnogaeth, ac iddynt ddod i weld y parc dŵr yn ei holl ogoniant – ynghyd ag ychydig o ychwanegiadau cyffrous newydd hefyd yn ein Bwyty Coedwig Law! Mae ein tîm yn SC2 yn gyffrous iawn i groesawu pawb yn ôl i’n Parc Dŵr arbennig, ac rydym yn edrych ymlaen at haf gwych arall yn y Rhyl! Fel yr addawyd, mae SC2 yn ôl yn fwy ac yn well nag o’r blaen, felly allwn ni ddim aros i weld y Parc Dŵr yn llawn wynebau hapus a theuluoedd yn creu atgofion unwaith eto!”

I’r rhai sy’n edrych i Sblashio yn eu gwyliau Haf, mae archebion ar-lein ar gyfer y parc dŵr dan do bellach ar agor o’r 5ed o Orffennaf.

Mae DLL hefyd yn falch iawn o rannu bod Pad Sblashio SC2 yn ôl ar gyfer Haf 2025 a bydd DLL yn cyhoeddi mwy o fanylion am hyn yn fuan.

Am ragor o wybodaeth, ewch i www.sc2rhyl.co.uk neu ewch i dudalennau cymdeithasol SC2 am y diweddariadau diweddaraf.