Mae DLL (Hamdden Sir Ddinbych Cyf) yn paratoi ar gyfer tymor yr haf gyda dau ddiwrnod recriwtio, wrth iddynt edrych i lenwi hyd at 30 o swyddi gwag yr haf ar draws eu hatyniad SC2, a bwytai arfordirol, 1891 a Chwt y Traeth.
 
Mae’r cyflogwr lleol yn gwahodd unrhyw un sy’n chwilio am her newydd, gan gynnwys y rhai sy’n dal mewn addysg, ac sy’n chwilio am gyflogaeth haf yn y diwydiannau twristiaeth a lletygarwch i ddod ac ymuno â nhw mewn dau ddiwrnod recriwtio a gynhelir yr wythnos nesaf.
 
Ar ddydd Iau 5ed Mawrth, bydd y cwmni’n annog unrhyw un sydd â dawn am wasanaeth cwsmeriaid i ymuno â nhw yn SC2 Y Rhyl, pan fyddant yn edrych i lenwi swyddi Cynorthwyydd Hamdden, Cynhaliwr Chwarae TAG, a Chynorthwyydd Bwyd a Diod yn yr atyniad. SC2 yw prif leoliad twristiaeth DLL gyda miloedd o ymwelwyr yn dod trwy’r drysau bob Haf.
 
Cynhelir diwrnod recriwtio pellach gan Bwyty a Br 1891 yn Y Rhyl ar ddydd Gwener 6ed Mawrth. Bydd swyddi gwag ar gyfer Cynorthwyydd Bwyd a Diod, Cogydd Cynorthwyol a Phorthor Cegin ar gael, gyda swyddi ar gael ar draws 1891 a Chwt y Traeth poblogaidd DLL, Prestatyn.
 
Dros y ddau ddiwrnod, rhoddir cyfle i ddarpar weithwyr ddysgu am y cwmni, DLL, deall sut mae atyniad twristaidd mawr fel SC2 yn gweithredu, a dysgu mwy am fwytai arfordirol poblogaidd 1891, Y Rhyl a Chwt y Traeth, Prestatyn. Byddant yn gallu sgwrsio â’r rheolwyr a gofyn cwestiynau, cael gwell dealltwriaeth o’r amrywiaeth o rolau o fewn y cwmni, a chael cyfarfod a chyfarch â’r tîm.
 
Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr DLL: “Mae DLL yn un o gyflogwyr mwyaf pobl ifanc yn yr ardal, ac rydym wrth ein bodd yn dod â mwy o gyfleoedd cyflogaeth i’r gymuned. Mae’r cwmni bron wedi dyblu ei weithlu ers 2020, ac rydym yn falch o’n hanes o ddarparu sgiliau lletygarwch a gwasanaeth cwsmeriaid y gall pobl ifanc eu defnyddio yn eu bywydau fel oedolion. Rydym yn cynnig llwybrau gyrfa gwych i bobl ifanc, y mae llawer ohonynt yn ymuno â ni mewn rolau haf dros dro, ond yn aros gyda ni mewn swyddi cyflenwi neu llawn amser drwy gydol y flwyddyn. Byddem yn annog unrhyw un sy’n caru cwrdd â phobl, yn mwynhau gweithio mewn amgylchedd prysur ac sydd â thalent am wasanaeth cwsmeriaid i ddod ac ymuno â ni ar gyfer y diwrnodau recriwtio, cwrdd â’r tîm a darganfod beth sydd gan DLL i’w gynnig!”
 
Gall ymgeiswyr archebu lle ar gyfer y diwrnodau recriwtio drwy e-bostio people@dll.co.uk.
 
Bydd manylion swyddi gwag hefyd ar gael ar https://careers.dll.co.uk/ Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau fydd 9fed Mawrth ar gyfer rolau Cynorthwyydd Hamdden, a 13eg Mawrth ar gyfer pob swydd wag arall.