‘Ymateb ysgubol’ i gystadleuaeth dylunio logo i ennill tocynnau i Clip ‘n’ Climb yn Hamdden Prestatyn
Mae cystadleuaeth dylunio logo i ennill tocynnau i’r wal Clip a Dringo newydd yn Hamdden Prestatyn wedi gweld nifer fawr o geisiadau gan blant ledled Sir Ddinbych.
Mae Hamdden Sir Ddinbych Cyf (DLL) wedi gwirioni gyda’r ymateb aruthrol i’w gystadleuaeth Dydd Gŵyl Dewi, a wahoddodd gyfranogwyr 11 oed ac iau i ddylunio logo thema Gymreig yn cynnwys yr eicon DLL.
Derbyniodd y gystadleuaeth nifer fawr o geisiadau yn arddangos creadigrwydd a balchder y gymuned Gymraeg.
Cafodd y cyfranogwyr y dasg o greu dyluniad unigryw a oedd yn adlewyrchu ysbryd Cymru a’i threftadaeth Gymreig gyfoethog. Roedd safon y cyflwyniadau’n eithriadol o uchel, gan ei gwneud yn benderfyniad anodd i’r beirniaid gyda’u hadborth yn dweud ‘roedd y dyluniadau a gyflwynwyd yn llawn dychymyg, yn artistig, ac yn cofleidio diwylliant Cymru mewn ffyrdd creadigol’.
Ar ôl ystyried yn ofalus, gostyngodd y beirniaid nifer y ceisiadau i bump yn y rownd derfynol cyn dewis yr enillydd, Seth Brahmall, 11 oed o Ysgol Caer Drewyn yng Nghorwen.
Fel rhan o’i wobr, mae Seth wedi ennill pedwar tocyn i ymweld â chyfleuster wal ddringo a chlogfeini newydd Hamdden Prestatyn, gan gynnig antur wefreiddiol iddo yn un o atyniadau newydd mwyaf cyffrous DLL.
Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych Cyf “Diolch i bawb a gymerodd ran yn ein cystadleuaeth Dewi Sant. Cawsom argraff wirioneddol ar y creadigrwydd a’r dalent a ddangoswyd yn yr holl ddyluniadau ac wedi ein syfrdanu gyda’r ymateb anhygoel a gawsom. Rwy’n gweld dyfodol yn y celfyddydau i nifer o’r disgyblion hynod dalentog hyn! Llongyfarchiadau enfawr i Seth am ei gynllun buddugol rhagorol! Fel cwmni Cymraeg balch, mae’n bwysig i ni bwysleisio ar yr hyn sy’n ein gwneud ni’n falch o fod yn Gymreig ac mae’r cystadleuwyr yma yn dyst i hynny.”
Fel rhan o’r wobr, bydd dyluniad buddugol Seth yn cael ei gynnwys fel llun proffil DLL ar Facebook am weddill mis Mawrth. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw llygad ar dudalennau cyfryngau cymdeithasol DLL i weld dyluniad Seth yn cael ei arddangos yn falch i bawb ei fwynhau.