Fe ymddangosodd cast Panto Pafiliwn Y Rhyl yn hudolus yn SC2 Y Rhyl ar gyfer lansiad swyddogol panto Sinderela, a dyna le’r oeddent yn ceisio dod o hyd i sliper gwydr coll Sinderela.

Daeth seren opera sebon ac enillydd Dancing on Ice, Hayley Tamaddon, pwy sy’n chwarae rhan y Tylwyth Teg, ynghyd â Buttons, y Tywysog, Tad Sinderela Baron Hard-up a Sinderela ei hun i chwilio am y sliper gwydr coll yn arena Ninja TAG.

Mae’r cast nawr yn gofyn i’r cyhoedd eu helpu i ddod o hyd i’r sliper trwy gydol mis Tachwedd fel y gall Sinderela fynd i’r ddawns!

Bydd sioe ysblennydd Sinderela yn Theatr Pafiliwn Y Rhyl yn cael ei berfformio yn y bore, prynhawn a gyda’r nos, o Ddydd Mercher 8fed i Ddydd Gwener 31ain Rhagfyr 2021.

Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych Cyf: “Ar ôl yr hyn a fu’n flwyddyn anodd a dweud y lleiaf, rydym yn edrych ymlaen yn fawr i ddod â Panto yn ôl i Theatr Pafiliwn Y Rhyl. Mae’n wych gweld perfformwyr yn ôl yn gwneud yr hyn maen nhw’n ei wneud orau ar ôl cyfnod heriol ac rydym yn gyffrous dros ben i groesawu ysgolion a theuluoedd yn ôl trwy ddrysau’r awditoriwm ac i brofi awyrgylch trydanol Theatr y Pafiliwn eto. ”

Dywedodd Cynhyrchydd UK Productions Martin Dodd “Rydyn ni wrth ein bodd ein bod yn ôl yn Theatr y Pafiliwn gwych yn Y Rhyl yn gweithio gyda’u tîm anhygoel. Hwn fydd ein 23ain pantomeim blynyddol yn y theatr a Sinderela bydd y mwyaf hyd yn hyn. Bydd digonedd o glitter, hud, comedi, cerddoriaeth ac wrth gwrs ni fedrwn anghofio’r ddwy ferlen Shetland a fydd y dwyn eich calon. Felly, dystiwch eich pwmpenni, sgleiniwch eich sliperi gwydr ac ewch i nôl eich tocyn ar gyfer y ddawns ”.

Am ragor o wybodaeth ac i archebu tocynnau, ewch i RhylPavilion.co.uk.