Manteision Aelodaeth:
Unwaith i chi ddod yn aelod o Hamdden Sir Ddinbych, ni fyddwch yn ymarfer ar eich pen eich hunain. Gyda’n harbenigwyr ffitrwydd cyfeillgar sydd bob amser ar gael i’ch helpu chi i gyrraedd eich nodau, byddwch yn ymuno â chymuned ffitrwydd Hamdden Sir Ddinbych.
Gyda’n pecynnau aelodaeth oedolion ac iau gwych, gallwch dalu gyda debyd uniongyrchol bob mis ac nid oes angen ymrwymiad hirdymor. Yn ogystal â gallu dewis o amrywiaeth o weithgareddau ac ymarfer corff hwyliog mewn unrhyw un o’n canolfannau ar draws y sir, mae ein haelodaeth hefyd yn rhoi mynediad i chi at:-
-
Offer o’r radd flaenaf
-
Sesiynau nofio cyhoeddus ar gael bob dydd
-
Dros 350 o ddosbarthiadau egnïol bob mis
-
Sesiwn gyflwyno a gosod nod am ddim
-
Adolygiad rhaglen am ddim
• Cymorth a Chyngor gan hyfforddwyr cymwys
-
Ap MyWellness am ddim i gofnodi eich ymarfer corff
-
Rhaglen wobrau i aelodau
-
Dewch a ffrind am ddim ar ddyddiadau penodol
-
Gostyngiadau gyda cherdyn hamdden

Aelodaeth Ffitrwydd
Mae ein haelodaeth Total Gym yn rhoi’r dewisiadau gorau i chi o ran ffitrwydd. Ydych chi eisiau rhyddhau eich egni mewn dosbarth Zumba, chwysu yn y gampfa, neu curo eich amser gorau yn y pwll – beth bynnag sy’n mynd a’ch pryd – gall Total Gym ddarparu.
Mae gan bob un o’n canolfannau rhywbeth unigryw i’w gynnig, a drwy roi mynediad i’r 8 o’n canolfannau hamdden, mae ein haelodaeth ffitrwydd yn rhoi mynediad i chi i ystod eang o weithgareddau, cyfleusterau ac offer.
I ddarganfod mwy am yr hyn sydd ar gael, cliciwch ar y botwm Mynegi Diddordeb heddiw, neu galwch heibio eich Canolfan Hamdden lleol, a bydd ein staff yn hapus i’ch tywys o amgylch y cyfleuster.
Cyfleusterau
Ystafelloedd Ffitrwydd
Yn ein hystafelloedd ffitrwydd byddwch yn hyfforddi gyda’r offer Technogym diweddaraf, a ddefnyddir gan athletwyr Olympaidd a phroffesiynol i gynnal eu ffitrwydd. Mae eich rhaglen yn cael ei gadw yn eich cwmwl lles personol, sy’n olrhain eich cynnydd ac yn eich cynorthwyo i gyflawni eich nodau. I’ch helpu chi, mae ein staff proffesiynol cyfeillgar bob amser ar gael gyda chyngor a chefnogaeth.
Dosbarthiadau Ymarfer Corff Grŵp
Os ydych chi’n ddechreuwr, yn hyfforddwr profiadol neu rhywle yn y canol, mae gennym y dosbarthiadau iawn i chi. Gyda chymysgedd gwych o ymarfer tynhau, cryfhau a chardio, rydym yn cynnig dosbarthiadau i bob lefel o alluoedd. Felly, os hoffech wneud ffrindiau newydd, neu os oes well gennych chi ymarfer mewn grŵp, rydym yn cynnig oddeutu 80 o ddosbarthiadau bob wythnos ar draws ein canolfannau, sydd oll ar gael yn eich aelodaeth.
Nofio
Ar draws y sir, rydym yn cynnig amrywiaeth ardderchog o sesiynau nofio cyhoeddus a nofio mewn lôn, sydd oll ar gael yn eich pecyn aelodaeth. I’r rhai sy’n hoffi bod yn y dŵr, mae gennym Aelodaeth Nofio pwrpasol.
Aelodaeth Myfyriwr 16-17 oed
Mae ein haelodaeth myfyriwr yn rhoi holl fuddion aelodaeth oedolion llawn, ond am y pris iawn i bobl ifanc 16 i 17 oed sydd yn dal i fod mewn addysg llawn amser.
Dim ond £16.50 y mis drwy Ddebyd Uniongyrchol* (nid oes ffi ymuno). Ewch i dderbynfa unrhyw Ganolfan Hamdden i gwblhau’r holl waith papur perthnasol.
Beth mae’n ei gynnwys?
-
Defnydd o 8 Canolfan Hamdden
-
Sesiynau Ystafelloedd Ffitrwydd – Rhai â hyfforddwyr
-
Defnydd o Sesiynau Nofio Cyhoeddus
-
Dosbarthiadau Ymarfer Corff Grŵp Ieuenctid
-
Cyflwyniad AM DDIM
-
Arbedwch hyd at 35% oddi ar ffioedd mynediad
Aelodau Iau – 11-15 mlwydd oed
ydym ni gyd yn gwybod bod ymarfer corff a chymryd rhan mewn gweithgareddau ffitrwydd yn darparu buddion lles ac iechyd pwysig. Mae ein pecyn Aelodaeth Iau yn helpu i roi pobl ifanc ar y trywydd iawn i fwynhau cadw’n ffit ac yn egnïol, arferion a all aros gyda chi am oes.
Dim ond £18.50 y mis drwy Ddebyd Uniongyrchol* – Ewch i dderbynfa unrhyw Ganolfan Hamdden i gwblhau’r gwaith papur perthnasol.
Beth mae’n ei gynnwys?
-
Defnydd o 8 Canolfan Hamdden
-
Sesiynau Ystafelloedd Ffitrwydd – Rhai â hyfforddwyr
-
Defnydd o Sesiynau Nofio Cyhoeddus
-
Arbedwch hyd at 30% oddi ar ffioedd mynediad
Gwobrau i Aelodau
Ein Cynllun Gwobrau i Aelodau: Cyfeiriwch ffrind atom a hawliwch WOBR AM DDIM os ydynt yn ymuno. Cewch fwy o wobrau wrth gyfeirio mwy o bobl atom!

Gwobrau Eraill
Gydag unrhyw aelodaeth Hamdden Sir Ddinbych, cewch ostyngiad o 10% oddi ar eich bil yn Costa Coffee y Rhyl a Rhuthun. Dim ond i chi ddangos eich cerdyn hamdden. *Ni ellir ei ddefnyddio ar y cyd ag unrhyw gynnig arall.
Fy Llwyddiant
Nod #fyllwyddiant yw cynnig lefel cyson o wasanaeth i bob aelod.
Dyma sut fyddwn yn monitro eich cynnydd. Mae’r siwrnai hon yn cynnwys proses barhaus cam wrth gam sy’n ein galluogi ni i’ch cynorthwyo chi i gyflawni eich nodau.
Mae Fy Llwyddiant yn ein caniatáu i ryngweithio gydag aelodau yn rheolaidd, adolygu eich rhaglen yn barhaus ac yn rhoi’r cyfle i ni gyflwyno rhywbeth newydd i chi.
Mae rhagor o fanylion am ein Aelodaeth Ffitrwydd ar gael ar y ddolen math o aelodaeth.
Mae aelodaeth mewn un cyfleuster hamdden yn cynnwys defnydd o’r 8 cyfleuster.
Mae gostyngiadau Cerdyn Hamdden ar gael i bob cwsmer Aelodaeth Ffitrwydd.

Prisiau Aelodaeth

Telerau ac Amodau Aelodaeth
Dewch o hyd i bob un o’n 8 Canolfan Hamdden ar y map: