Telerau ac Amodau Aelodaeth
Hamdden Sir Ddinbych Cyf
Mae Hamdden Sir Ddinbych Cyf yn cadw’r hawl i ddiwygio’r telerau ac amodau hyn yn achlysurol.
Mae’r telerau ac amodau isod yn berthnasol i gwsmeriaid gydag unrhyw gategori o aelodaeth Hamdden Sir Ddinbych, gan gynnwys Cynllun Nofio Sir Ddinbych.
Aelodaeth (Cyffredinol)
Yn ôl y gyfraith, mae gennych yr hawl i ganslo pryniant ar-lein o’ch aelodaeth o fewn 14 diwrnod, gan ddechrau o’r diwrnod y byddwch yn cymryd yr aelodaeth hon. Os byddwch yn dewis gwneud hyn, bydd Hamdden Sir Ddinbych yn cadw eich ffi gweinyddu / ymuno (os yw’n berthnasol i’ch aelodaeth) a’r swm pro rata sy’n ddyledus am eich defnydd o gyfleusterau hyd at ddyddiad eich canslo.
Oni bai y nodwyd fel arall, at ddibenion aelodaeth Hamdden Sir Ddinbych, bydd oedolion yn cael eu hystyried yn 16 oed a hŷn.
Nid yw Hamdden Sir Ddinbych yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am golled na difrod i unrhyw ddogfennau gwreiddiol a gyflwynwyd i’w defnyddio ar gyfer y broses cais aelodaeth, oni bai y profwyd bod gweithiwr cwmni wedi bod yn esgeulus.
Bydd pob aelod yn derbyn cerdyn Hamdden, a bydd angen llun ar ei gyfer. Ni fydd y llun hwn yn ymddangos ar y cerdyn, ond mae ei angen at ddibenion adnabod pan ddefnyddir unrhyw ganolfan.
Mae cardiau hamdden yn parhau’n eiddo Hamdden Sir Ddinbych Cyf ac mae’n rhaid eu dychwelyd os bydd aelodaeth yn cael ei ganslo.
Os bydd y cerdyn yn mynd ar goll / cael ei ddwyn, dylai cwsmeriaid hysbysu eu canolfan leol ar unwaith. Bydd cardiau wedi eu difrodi neu difwyno angen eu disodli, ac mae’n bosibl y codir tâl am y gwasanaeth hwn.
Nid yw’n bosibl trosglwyddo aelodaeth a chardiau. Yr unigolyn y cyflwynwyd yr aelodaeth iddynt yn unig sy’n gallu defnyddio’r cyfleusterau.
Mae’n rhaid i aelodau gofnodi pob ymweliad, drwy ddangos eu cerdyn yn y Dderbynfa neu ddefnyddio desg dalu hunanwasanaeth. Gellir gofyn i aelodau ddangos eu cerdyn unrhyw dro yn ystod eu hymweliad hefyd.
Mae’n rhaid i aelodau gydymffurfio â rheolau sy’n ymwneud â chanolfannau unigol.
Nid yw Canolfannau Hamdden yn gyfrifol am eiddo personol aelodau nac ymwelwyr. Mae loceri yn cael eu darparu at ddefnydd y cyhoedd ac mae pethau gwerthfawr yn cael eu gadael ar eich menter eich hun.
Cyfrifoldeb aelodau yw darparu newidiadau wedi eu dogfennu i Hamdden Sir Ddinbych Cyf o fanylion personol/amgylchiadau ac/neu gyflyrau meddygol/iechyd drwy’r porthol ar-lein.
Ble mae’r aelodaeth yn cynnwys aelod iau, cyfrifoldeb y rhiant/gwarchodwr yw darparu gwybodaeth feddygol ddiweddaraf ar eu plentyn.
Cyfrifoldeb y rhiant/gwarchodwr yw sicrhau bod plentyn yn ddigon iach a heini i gymryd rhan mewn unrhyw weithgareddau Hamdden Sir Ddinbych.
Mae’r defnydd o gamerâu, lluniau fideo neu ddyfeisiau symudol ar gyfer recordio neu gymryd lluniau o fewn canolfannau Hamdden Sir Ddinbych wedi’i atal bob amser.
Bydd gwybodaeth a ddarperir fel rhan o’r broses aelodaeth yn cael ei chadw’n gyfrinachol ac yn unol â’r Ddeddf Diogelu Data 2018. Am fwy o fanylion, ewch i https://www.denbighshire.gov.uk/en/resident/legal/privacy.aspx
Mae’n rhaid rhoi gwybod am unrhyw ddigwyddiad neu ddamwain i staff Hamdden Sir Ddinbych gynted â phosibl ar ôl y digwyddiad.
Mae’n rhaid i aelodau indemnio’r cwmni am unrhyw ddifrod, anaf neu golled a achoswyd ganddyn nhw, eu gwesteion neu ddibynyddion.
Mae Hamdden Sir Ddinbych Cyf yn cadw’r hawl i newid neu dynnu pob rhan o fuddion aelodaeth a gynigir ar unrhyw adeg.
Mae rheolwyr y Ganolfan Hamdden yn cadw’r hawl i wrthod mynediad i unrhyw gwsmer, a therfynu aelodaeth ar unwaith, unrhyw aelod a ganfyddir sy’n torri’r telerau ac amodau hyn.
Aelodaeth (Ffitrwydd)
Mae aelodaeth oedolion yn berthnasol i gwsmeriaid 16 oed a drosodd. Mae aelodaeth iau yn berthnasol i gwsmeriaid 11-15 oed.
Ar ôl ymuno, mae’n rhaid i aelodau gwblhau Datganiad Ymrwymiad Iechyd cyn cymryd rhan mewn unrhyw weithgareddau.
Mae aelodau iau yn gallu mynychu yn ystod sesiynau penodol ar gyfer y math yma o aelodaeth. Yn ogystal, mae rhai canolfannau yn cynnig sesiynau wedi eu goruchwylio, ond mae cwsmeriaid yn gyfrifol am wirio rhaglenni cyn mynychu.
Aelodaeth (Gwersi Nofio)
Mae Cynllun Nofio Hamdden Sir Ddinbych yn rhaglen barhaus gydag egwyl am bythefnos dros y Nadolig, ynghyd ag unrhyw Ŵyl Banc.
Mae pob lefel dosbarth yn cael ei ddiffinio gan feini prawf Nofio Cymru a’i asesu yn erbyn hynny.
Mae rhestrau aros yn cael eu cynnal yn nhrefn dyddiad a phlant yn symud i’r Cynllun Nofio yn yr un ffordd.
Unwaith y bydd plentyn wedi’i asesu’n barod i symud dosbarth, gwneir pob ymdrech i ddod o hyd i le yn y Don briodol. Fodd bynnag, ni ellir gwarantu lle ar unwaith. Yn yr amgylchiadau hyn, disgwylir i blant aros yn eu Ton bresennol nes bydd yna le ar gael iddynt.
Aelodaeth (Consesiwn a Chorfforaethol)
Mae Hamdden Sir Ddinbych Cyf yn cadw’r hawl i addasu cymhwyster ar gyfer Aelodaeth Consesiwn neu Gorfforaethol. Mae rhestr ddiweddaraf o feini prawf cymhwyso ar gael mewn unrhyw Ganolfan Hamdden.
Bydd angen prawf cymhwyster a bydd angen ei gynhyrchu a’i gofnodi adeg ymuno.
Mae’n bosibl y bydd angen prawf cymhwyster yn achlysurol i sicrhau hawl parhaus.
Club Cycle Dinbych
Mae’r taliadau misol a gesglir yn ystod y cyfnod 1 Hydref 2023 i 31 Rhagfyr2023 yn aros ar y gyfradd cynnig arbennig o £9.99.
O fis Ionawr 2024 ymlaen, bydd yr holl daliadau a gesglir ar y dyddiadDebyd Uniongyrchol dewisol, ar y gyfradd safonol o £25 y mis.
Mae’r cynnig yngymwys i aelodau newydd yn unig.
Mae’r cynnig yn gynhwysol i Glwb Dinbych yn unig. Nid yw’r cynnig yn gymwysi aelodau sy’n dymuno mynychu dosbarthiadau Clwb Seiclo mewn unrhyw safleHamdden Sir Ddinbych arall.
Mae’n cynnwys dosbarthiadau Clwb Seiclo a Chlwb Seiclo Croes.
Tocynnau Gwestai
Mae tocynnau gwestai ar gael ar gais ac maent yn cynnwys eu telerau ac amodau penodol eu hunain.
Mae aelodau yn gyfrifol am ymddygiad eu gwestai yn ystod yr ymweliad.
Bydd unigolyn sy’n dod gydag aelod fel gwestai ond yn cael dod i mewn unwaith yn y statws hwnnw.
Ffioedd/Taliadau
Bydd ffioedd dechrau/pro rata yn berthnasol ac mae’n rhaid talu ar unwaith ar ôl ymuno. Nid yw’r ffioedd hyn yn ad-daladwy oni bai y nodwyd yn wahanol.
Mae’n bosibl y byddwn yn cynyddu tâl aelodaeth a TAW yn ôl disgresiwn. Mae ffioedd fel arfer yn cael eu hadolygu yn flynyddol, ond gall amgylchiadau olygu eu bod yn cael eu hadolygu’n gynt.Bydd hysbysiad yn cael ei roi i aelodau ymlaen llaw drwy e-bost am unrhyw gynnydd.
Mae’n rhaid talu unrhyw ddyled heb ei thalu i Hamdden Sir Ddinbych cyn ailymuno.
Mae’n rhaid i wersi nofio y telir amdanynt gydag arian gael eu talu yn llawn a chyn y wers gyntaf.
Mae’n rhaid i wersi nofio y telir amdanynt gydag arian gael ei dalu cyn dechrau’r sesiwn olaf y talwyd amdani. Gall methu gwneud hynny arwain at golli lle ar y rhaglen.
Mae aelodau sy’n ymuno drwy’r Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff ond yn gymwys am y raddfa gostyngiad aelodaeth barhaus. Unwaith y bydd aelod wedi gadael y Cynllun, nid ydynt yn gallu ailymuno ar y raddfa gostyngiad.
Debyd Uniongyrchol
Mae’n rhaid i unrhyw daliadau Debyd Uniongyrchol diofyn/wedi eu canslo gael eu cywiro cyn unrhyw gyfranogiad pellach.
Os byddwch yn methu taliad, bydd Hamdden Sir Ddinbych Cyf yn ailgyflwyno a chasglu ar y dyddiad talu nesaf sydd ar gael – naill ai’r 1af/15fed o’r mis.
Mae Hamdden Sir Ddinbych yn cadw’r hawl i ganslo aelodaeth unrhyw gwsmer sy’n methu dau neu fwy o’r debydau uniongyrchol.
Gwarant Mandad Debyd Uniongyrchol
Mae’r Warant hon yn cael ei chynnig gan bob banc a chymdeithas adeiladu sy’n derbyn cyfarwyddiadau i dalu Debyd Uniongyrchol. Os bydd yna unrhyw newidiadau yn symiau, dyddiadau neu amlder eich Debyd Uniongyrchol, bydd Hamdden Sir Ddinbych Cyf yn rhoi gwybod i chi 10 diwrnod gwaith cyn i’ch cyfrif gael ei ddebydu, neu fel y cytunwyd fel arall. Os byddwch chi’n gofyn i Hamdden Sir Ddinbych Cyf gasglu taliad, bydd cadarnhad o’r swm a’r dyddiad yn cael ei roi i chi pan wneir y cais.
Os gwneir camgymeriad yn nhaliad eich Debyd Uniongyrchol gan Hamdden Sir Ddinbych Cyf neu eich banc neu gymdeithas adeiladu, byddwn yn ad-dalu’r swm a dalwyd o’ch banc neu gymdeithas adeiladu.
Os byddwch yn derbyn ad-daliad na ddylech ei gael, mae’n rhaid i chi ei ad-dalu pan fydd Hamdden Sir Ddinbych Cyf yn gofyn i chi wneud hynny.
Gallwch ganslo Debyd Uniongyrchol ar unrhyw adeg drwy gysylltu â’ch banc neu gymdeithas adeiladu. Efallai y bydd angen cadarnhad ysgrifenedig. Dylech hysbysu Hamdden Sir Ddinbych hefyd.
**Sylwer mai cyfrifon banc DU yn unig sy’n dderbyniol ar gyfer Debyd Uniongyrchol.
Ad-daliadau
Ni fydd unrhyw ad-daliadau am beidio defnyddio cyfleusterau canolfan.
Mae taliadau debyd uniongyrchol am wersi nofio yn cynnwys darpariaeth ar gyfer cau dros y Nadolig, Gwyliau Banc, felly ni roddir unrhyw gredyd pellach.
Nid yw taliadau gwersi nofio yn ad-daladwy oni bai bod nodyn meddyg yn cael ei gyflwyno ar gyfer y cyfnod absenoldeb.
Os yw rhiant/gwarchodwr wedi dewis y lefel anghywir o wers nofio ar gyfer eu plentyn a bod dosbarth arall yn cael ei gynnig, ond yn cael ei wrthod, ni roddir unrhyw ad-daliad.
Os bydd gwers nofio yn cael ei chanslo gan y ganolfan hamdden, bydd cwsmeriaid sy’n talu gydag arian yn derbyn credyd gwers yn awtomatig.
Dylai ceisiadau am ad-daliad gael eu gwneud yn ysgrifenedig (e-bost/llythyr) i’r Rheolwr Masnachol priodol. (Manylion ar gael gan ganolfannau).
Gostyngiadau/Hyrwyddiadau
Mae cardiau hamdden yn cynnig y gostyngiad defnyddiwr ar y prisiau safonol o fewn pob canolfan hamdden Sir Ddinbych. Mae’n rhaid cynhyrchu’r cerdyn i gael y gostyngiad ar bob achlysur, neu mae’n rhaid talu’r pris llawn.
Ni ellir defnyddio cardiau hamdden gydag unrhyw gynnig neu ostyngiad arall, oni bai y nodwyd yn wahanol.
O dro i dro, mae’n bosibl y bydd Hamdden Sir Ddinbych yn cynnal cynigion aelodaeth a bydd telerau ac amodau ychwanegol ar gael.
Atal Dros Dro a Chanslo
Mae aelodaeth yn gallu cael ei atal dros dro drwy roi 10 diwrnod o rybudd drwy ein porthol ar-lein.
Mae yna uchafswm o gyfnod atal dros dro o 3 mis.
Bydd y cyfnod atal dros dro yn dod i rym o’r dyddiad casglu nesaf sydd ar gael. Bydd taliad yn ailgychwyn yn awtomatig unwaith y bydd y cyfnod atal dros dro wedi’i gwblhau.
Oherwydd natur ddynamig Cynllun Nofio Sir Ddinbych, ni ellir gwarantu lle ar y rhaglen, yn dilyn cyfnod atal. Fodd bynnag, rhoddir blaenoriaeth yn y sefyllfa hon.
Mae’n rhaid i aelodau sy’n dymuno canslo eu haelodaeth wneud hynny drwy’r porthol ar-lein. Ni ellir canslo dros y ffôn nac wyneb yn wyneb yn y ganolfan hamdden.
Cyfrifoldeb y cwsmer yw canslo eu taliad debyd uniongyrchol.
Cau a Newid Gweithgareddau
Mae rheolwyr y ganolfan yn cadw’r hawl i addasu amser gwers neu dosbarth pan fydd angen.
Mae rheolwyr y ganolfan yn cadw’r hawl i ddefnyddio athrawon/hyfforddwyr wrth gefn heb rybudd ymlaen llaw.
Mae’n bosibl y bydd canolfannau ynghau ar benwythnosau Gŵyl y Banc yn ôl disgresiwn Rheolwr Masnachol a bydd yn gweithredu rhaglen fyrrach dros wyliau’r Nadolig a’r Flwyddyn Newydd.
Os bydd yn rhaid cau yn annisgwyl, bydd Hamdden Sir Ddinbych Cyf yn gwneud pob ymdrech i gysylltu â chwsmeriaid sydd wedi archebu gweithgaredd.
Os bydd yn bosibl aildrefnu sesiwn a gollwyd yn rhesymol, bydd rheolwyr y ganolfan yn hysbysu cwsmeriaid am y dyddiad/amser gwahanol.
Bydd canolfannau sy’n cynnal gwaith a drefnwyd yn gwneud pob ymdrech i roi rhybudd i gwsmeriaid. Fodd bynnag, bydd gan ganolfannau hawl i wneud addasiadau angenrheidiol a gwneud gwaith atgyweirio neu gynnal a chadw heb rybudd ymlaen llaw.
Mae cyfleusterau sydd ar gael yn amrywio o ganolfan i ganolfan ac felly mae pob gweithgaredd yn dibynnu ar argaeledd.
Archebu (cyffredinol)
Mae gan ddeilwyr cerdyn hamdden hawl i archebu cyfleusterau mewn Canolfan Hamdden hyd at saith niwrnod ymlaen llaw. Mae unrhyw un heb gerdyn yn gallu archebu hyd at bedwar diwrnod ymlaen llaw.
Mae’n rhaid talu am bob archeb sengl yn llawn ymlaen llaw.
Bydd archebion bloc yn cael eu hanfonebu ymlaen llaw yn fisol.
Os rhoddir 24 awr neu fwy o rybudd ar gyfer canslo, bydd rheolwr y ganolfan yn ymdrechu i ddarparu dyddiad/amser arall. (Mae’r cyfnod rhybudd hwn yn 1 wythnos ar gyfer Archebion Bloc).
Archebu (Dosbarthiadau Ymarfer Corff Grŵp)
Mae’r polisi archebu hwn yn berthnasol ar gyfer archebion ar-lein, ar y safle a dros y ffôn.
Gall aelodau archebu 7 diwrnod o flaen llaw.
Gall defnyddwyr nad ydynt yn aelodau archebu 4 diwrnod o flaen llaw.
Mae’n rhaid i gwsmeriaid roi o leiaf 2 awr o rybudd os nad ydynt yn gallu mynychu dosbarth. Gall methu gwneud hynny arwain at godi tâl i ddefnyddwyr nad ydynt yn aelodau.
Os na fydd aelod yn ymddangos ar gyfer hyd at 3 dosbarth, byddant yn colli eu braint blaenoriaeth archebu. Bydd aelodau yn colli eu braint blaenoriaeth archebu am wythnos o ddiwrnod y trydydd dosbarth a gollwyd.
Un archeb yn unig y gellir ei wneud fesul unigolyn.
Mae pob archeb ar gyfer dosbarth yn amodol ar argaeledd. Ni allwn warantu lle mewn dosbarth ymarfer grŵp.
Archebu (Gweithgareddau i Blant)
Mae’r polisi archebu hwn yn berthnasol ar gyfer archebion ar-lein, ar y safle a dros y ffôn.
Mae Aelodau a Defnyddwyr nad ydynt yn Aelod yn gallu archebu unrhyw dro o’r dyddiad yr hysbysebir y gweithgareddau.
Wrth archebu, mae’n rhaid talu am y gweithgaredd hwn yn llawn adeg archebu ac nid yw’n ad-daladwy.
Mae pob archeb ar gyfer dosbarth yn amodol ar argaeledd. Ni allwn warantu lle yn y gweithgareddau hyn.
Atebolrwydd
Mae aelod neu ymwelydd sy’n cymryd rhan yng ngweithgareddau’r canolfannau neu’n defnyddio’r cyfleusterau yn gyfrifol am sicrhau fod ganddo ef neu hi yr offer cywir a bod ei gyflwr iechyd a chorfforol ef neu hi yn golygu nad yw’n peri unrhyw risg iddo ef neu hi ei hun nac unrhyw unigolyn arall sy’n defnyddio’r ganolfan. Deellir a chytunir drwy hyn nad yw’r ganolfan yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am ddamwain, anaf, salwch, colled neu ddamwain a achosir i neu a ddioddefir gan aelodau neu westeion yn eiddo’r ganolfan, sut bynnag yr achosir. Ond i’r graddau yr achosir gan ddiffyg bwriadol neu esgeulustod y ganolfan, ei weision neu asiantau. Mae aelodau yn gyfrifol am eu hyswiriant eu hunain mewn perthynas ag anafiadau a ddioddefwyd, colled neu ddifrod i offer.
Cyfathrebu
Mae Hamdden Sir Ddinbych Cyf yn gwmni sy’n gyfrifol yn gymdeithasol ac yn cyfathrebu gyda’i gwsmeriaid ar sail di-bapur.
Ymwadiad Gwefan
Mae Hamdden Sir Ddinbych Cyf yn ymdrechu i gynnal cywirdeb a dibynadwyedd www.hamddensirddinbych.co.uk. Er hynny, nid yw’n gwneud unrhyw gynrychiolaethau am gywirdeb, dibynadwyedd, cyflawnder neu addasrwydd y wybodaeth, cynnyrch, gwasanaethau a’r graffeg perthnasol wedi’u cynnwys ar y wefan hon ar gyfer unrhyw ddiben. Dydi Hamdden Sir Ddinbych Cyf, ei weithwyr cyflogedig, cyflenwyr a phartïon eraill ynghlwm mewn creu a darparu’r wefan hon ddim yn atebol am unrhyw ddifrod, colled neu anghyfleustra uniongyrchol, anuniongyrchol, damweiniol, arbennig neu ganlyniadol wedi’i hachosi drwy ddibynnu ar gynnwys y wefan hon neu’n codi o ddefnyddio’r wefan hon.
Cyfryngau Cymdeithasol/Gwefan
Mae gan Hamdden Sir Ddinbych yr hawl i olygu, gwrthod cynnwys neu ddileu unrhyw ddeunydd sydd wedi’i chyflwyno neu ei chynnwys ar ei wefan neu gyfrifon cyfryngau cymdeithasol. Nid yw Hamdden Sir Ddinbych yn gyfrifol am ac nid yw Hamdden Sir Ddinbych yn derbyn unrhyw atebolrwydd am unrhyw ddeunydd sy’n cael ei gynnwys ar eu cyfryngau, heblaw gan Hamdden Sir Ddinbych. Unrhyw safbwyntiau, cyngor, datganiadau, cynigion neu unrhyw wybodaeth arall a fynegir neu sy’n cael ei wneud gan drydydd parti ar y cyfryngau hyn yw rhai’r trydydd parti dan sylw. Dydi Hamdden Sir Ddinbych ddim yn cymeradwyo nac yn cymryd cyfrifoldeb am gywirdeb neu atebolrwydd unrhyw ddeunydd trydydd parti o’r fath.
Drwy dderbyn y telerau ac amodau hyn rydych yn cytuno â’n Polisi Preifatrwydd. Am fwy o wybodaeth ar hyn a sut rydym yn defnyddio eich data – ewch i’r ddolen hon: https://denbighshireleisure.co.uk/privacy/