Mae Angelo Starr a’r Tîm a elwir hefyd yn fand The Edwinn Starr wedi’i gadarnhau fel y prif berfformiad yng nghyngerdd rhad ac am ddim Pops Nadolig eleni yn Y Rhyl.

Mae’r cyngerdd fel arfer yn sbarduno’r dathliadau Nadolig ar draws y sir, ac eleni bydd yn cael ei gynnal yn Theatr Pafiliwn Y Rhyl ar Ddydd Sul 28ain Tachwedd.

Mae tocynnau am ddim i’w harchebu o 10y.b. ar Ddydd Mercher 10fed Tachwedd trwy ffonio Swyddfa Docynnau Pafiliwn Y Rhyl a byddant yn gyfyngedig i bedwar tocyn i bob cartref. Mae mynychwyr y cyngerdd yn cael eu cynghori i osod eu larymau i archebu eu tocynnau yn gyflym gan fod disgwyl y bydd llinell gymorth y Swyddfa Docynnau yn canu’n ddi-stop ar gyfer y digwyddiad hynod boblogaidd hwn, gyda’r tocynnau’n gwerthu allan o fewn 48 awr ar gyfer y cyngerdd Pops Nadolig diwethaf yn 2019.

Mae cyngerdd blynyddol Pops Nadolig yn cael ei gynnal yn Theatr Pafiliwn Y Rhyl am y tro cyntaf erioed oherwydd y galw mawr am y cyngerdd blynyddol.

Bydd ensemble Band Arian Y Rhyl a chantorion yn perfformio yn ogystal â band The Edwinn Starr, gan gynnig amrywiaeth o gerddoriaeth i’r noson.

Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych Cyf: “Rydyn ni wedi plesio’n fawr ein bod ni wedi sicrhau perfformwyr arbennig ac mae’r digwyddiad wedi’i sefydlu ers amser maith fel ffordd o sbarduno’r dathliadau Nadolig. Mae hi wedi bod yn anodd dros yr ychydig fisoedd diwethaf gydag atgyweiriadau ac adnewyddiadau ers y llifogydd, ond rydym mor gyffrous i ailagor ein drysau ac i roi hwb i ddathliadau’r Nadolig gydag amrywiaeth o berfformwyr talentog. Mae ein gwirfoddolwyr a Chyfeillion y Theatr wedi bod yn aros yn amyneddgar i ddychwelyd ac i groesawu mynychwyr cyngherddau trwy ddrysau’r awditoriwm eto. Gwnewch y penwythnos hwnnw yn ddechreuad i’ch dathliadau Nadolig gyda’r digwyddiad troi’r goleuadau Nadolig ymlaen ar y Dydd Sadwrn a’n cyngerdd Pops Nadolig ar y Dydd Sul! ”

Dywedodd Maer Y Rhyl, Cynghorydd Diane King: “Rydyn ni mor ffodus ein bod ni’n croesawu Angelo Starr a’r Tîm i’r Rhyl. Mae Angelo wedi canu gyda rhai o’r mawrion, gan gynnwys Alexander O’Neal, felly rydym yn ffodus iawn o’i gael ef a’i fand yn serennu yng ngwyliau Nadolig Y Rhyl. Mae poblogrwydd y Pops Nadolig yn amlwg gyda’r newid o leoliad. Mae pawb yn edrych ymlaen at noson o ganeuon Motown a’r clasuron, am ddechrau gwych i gyfnod yr ŵyl, ac un sy’n taro’r holl nodau cywir.”

Bydd y drysau’n agor o 4y.p. gan roi cyfle i fynychwyr y cyngerdd gael diod cyn i’r cyngerdd ddechrau am 5y.p.

I archebu’ch tocynnau Pops Nadolig 2021, ffoniwch Swyddfa Docynnau Theatr Pafiliwn Y Rhyl o 10y.b. Ddydd Mawrth 9fed Tachwedd ar 01745 330000.