Mae Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych (HSDdCyf), wedi derbyn gwobr genedlaethol fawreddog am ei gyfraniad i ddiwydiant hamdden y DU.

Dathlwyd y goreuon o bob rhan o’r sector gweithgarwch corfforol yr wythnos diwethaf wrth i enillwyr Gwobrau UKActive 2023 gael eu cyhoeddi yn Leeds Royal Armories mewn seremoni arbennig nos Iau, 26 Hydref.

Anrhydeddwyd HSDdCyf yn ystod y noson pan ddyfarnwyd Gwobr Cydnabyddiaeth Arbennig Jan Spaticchia i Reolwr Gyfarwyddwr, Jamie Groves, am ei gyfraniadau rhagorol i’r diwydiant hamdden ar draws y DU.

Pwrpas y wobr hon yw cydnabod cyfraniad rhagorol rhywun yn y sector gweithgaredd corfforol. Ychwanegwyd y wobr hon at raglen UKActive i anrhydeddu pobl sydd wedi cael effaith barhaus a sylweddol ar draws y sector, a chafodd gwaith parhaus Jamie ar fframwaith Hamdden y DU ei gydnabod gan y diwydiant.

Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr HSDdCyf: “Mae’n fraint wirioneddol cael y wobr hon. Rwy’n hynod o falch o’r gwaith anhygoel y mae HSDdCyf wedi arwain arno dros y deng mlynedd diwethaf. Mae gwaith caled, penderfyniadau ac ymroddiad y Tîm Gweithredol cyfan wedi ein helpu i gyrraedd lle’r ydym heddiw ac rwy’n ddiolchgar iawn am eu holl gefnogaeth, yn enwedig ers lansio’r cwmni yn 2019. Fel cwmni, ein gwerthoedd, ein hymroddiad a’n parch sy’n gwneud i ni sefyll allan ac ni allwn fod yn fwy balch o dderbyn y wobr hon ar ran HSDdCyf i  gyd.”

Dyfarnwyd y wobr hon i Jamie am ei arweinyddiaeth ddeinamig ac ysbrydoledig, am drawsnewid HSDdCyf o un gwasanaeth awdurdod lleol i fod yn fusnes masnachol llewyrchus, sy’n cael ei gydnabod am gyfleusterau ac arferion sy’n arwain y sector a hefyd am sefydlu fframwaith Hamdden y DU. Creodd Jamie’r syniad ar gyfer Fframwaith Hamdden y DU (UKLF) a’i droi’n realiti.

Mae UKLF, sy’n eiddo i HSDdCyf, ac yn gweithredu mewn partneriaeth ag Alliance Leisure Ltd, yn penodi partneriaid datblygu yn uniongyrchol ar gyfer cwmpasu, dylunio, adnewyddu ac adeiladu canolfannau hamdden, cyfleusterau chwarae, hamdden a chwaraeon ledled y DU. Fodd bynnag, nid yw’r fframwaith yn canolbwyntio’n unig ar ddarparu cyfleusterau brics, ond mae’n mabwysiadu dull gwasanaeth llawn, gan gefnogi’r holl elfennau sy’n cyfrannu at ddatblygiad cynaliadwy, llwyddiannus gan gynnwys dylunio, cynllunio busnes, ariannu, adeiladu a marchnata.

Hyd yn hyn mae UKLF wedi helpu i gyflawni dros 96 o ddatblygiadau ac mae ganddo gyfres o brosiectau datblygu gwerth cyfanswm o £2 biliwn. Diolch i Jamie, bydd pobl ledled y DU yn cael y cyfle i ymweld â chyfleusterau hamdden wedi’u trawsnewid lle gallant; chwarae chwaraeon, gwella o anaf neu salwch, treulio amser gyda’u teuluoedd ac elwa o fod yn fwy egnïol yn amlach.