Mae saethwr mwyaf llwyddiannus Prydain ar ei ffordd i Gemau Paralympaidd Haf 2020 yn ddiweddarach y mis hwn.

Mae’r athletwr Paralympaidd, John Stubbs MBE, sy’n hyfforddi yng Nghanolfan Hamdden y Rhyl, wedi’i gadarnhau fel un o’r pedwar saethwr fydd yn mynd i Tokyo ym mis Awst.

Ar ôl ennill medal Aur yn Bejing 2008, a medal arian wyth mlynedd yn ddiweddarach yn Rio de Janeiro, mae John yn anelu’n uchel eleni, â’i fryd ar fedal Aur.

Eglurodd John Stubbs: “Mae mynd i gemau Olympaidd ar unrhyw oed yn dipyn o gamp, ond pan fyddwch chi’n cyrraedd fy oed i, efallai byddwch chi’n meddwl bod hynny’n rhywbeth na allwch chi ei wneud, ond rwyf am brofi nad yw oedran yn rhwystr, yn enwedig mewn chwaraeon anabledd, mae’n rhaid canolbwyntio a mynd amdani.

“Mae hyfforddi yn y Rhyl wedi fy helpu i baratoi ar gyfer y gemau, mae’n safle gwych ac mae’r staff yn barod iawn i helpu hefyd. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ddychwelyd at gystadlu ar ôl seibiant Covid-19, byddai dychwelyd gydag unrhyw fedal yn fraint, ond rwy’n anelu am aur.”

Meddai Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych Cyf: “Mae’n bleser cael John yn hyfforddi yng Nghanolfan Hamdden y Rhyl. Mae pawb yn y tîm yn Hamdden Sir Ddinbych yn ei gefnogi ac rydym i gyd yn edrych ymlaen at ei wylio’n cystadlu yn Tokyo yn ddiweddarach yn y mis.

Rydym wrth ein boddau bod John wedi mwynhau hyfforddi yn y Rhyl, ac rydym yn ymfalchïo yn safon y cyfleusterau sydd ar gael yn ein canolfannau ar draws y sir.  Er gwaetha’r ansicrwydd diweddar, rydym wedi parhau i fuddsoddi yn ein cyfleusterau, a gyda pheiriannau Technogym o’r radd flaenaf yn ein hystafelloedd ffitrwydd, mae gennym rhywbeth i’w gynnig i bawb, p’un a ydych chi am wella eich ffitrwydd cyffredinol, neu hyfforddi ar gyfer y gemau Olympaidd!

“Ar ran y cwmni cyfan, hoffwn ddymuno’n dda iawn i John a thîm Prydain i gyd fydd yn cystadlu yn Tokyo!”