Mae Bwyty a Bar 1891 yn ailagor ei ddrysau ar gyfer bwyta cyn y theatr ac ar gyfer cinio dydd Sul, gyda Sul y Tadau yn nodi dechrau’r profiad bwyta hir-ddisgwyliedig.

Yn dilyn y llifogydd dinistriol ym Mhafiliwn y Rhyl y llynedd, mae llawer o waith adnewyddu wedi cyflwyno gwedd newydd sbon i fwyty a bar 1891 ac mae bellach yn barod i agor i’r cyhoedd.

Gyda’r golygfeydd machlud ar lan y môr yn ymestyn o Landudno’r holl ffordd i fyny arfordir Gogledd Cymru, ailwampio’r bwyty bendigedig, blasau newydd y fwydlen theatr a’u ciniawau dydd Sul enwog, bydd hi’n anodd dod o hyd i brofiad bwyty arall yn y wlad fel 1891 yn Y Rhyl.

Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych Cyf: “Roeddem wedi ein syfrdanu gan yr hyn a ddigwyddodd i’n bwyty blaenllaw hardd ym 1891, a dweud y lleiaf! Fodd bynnag, yng ngwir arddull Hamdden Sir Ddinbych Cyf, rydym wedi dod â 1891 yn ôl hyd yn oed yn well nag o’r blaen, gydag arddull newydd cain a soffistigedig, gan gynnwys bwyty mwy cartrefol. Bydd ein bwyty gyda’r golygfa-môr ar y llawr cyntaf sydd newydd ei addurno a’i adnewyddu’n hyfryd yn agor gyda bwydlen newydd syfrdanol, wedi’i dylunio’n arbennig gan ein Prif Gogydd. Ni allwn aros i groesawu cwsmeriaid yn ôl ar gyfer ein ciniawau dydd Sul enwog a’n ciniawa cyn theatr yr haf hwn!”

Gydag ardal eistedd gartrefol newydd, goleuadau newydd, dodrefn godidog ac ardal bar wedi’i dylunio’n wych, mae bwyty 1891 yn lleoliad perffaith i’r teulu cyfan, p’un a ydynt yn chwilio am ginio dydd Sul neu damaid blasus i’w fwyta cyn sioe ym Mhafiliwn y Rhyl.

Tu allan i 1891, mae’r Teras 1891 yn prysur ddod yn lle i fod ar arfordir y Rhyl, gyda golygfeydd godidog, tapas blasus a choctels yn rhoi naws hafaidd bendigedig, mae’n le perffaith i ymlacio a dadflino ar ôl wythnos brysur.

Am fwy o wybodaeth ac i archebu bwrdd ewch i 1891rhyl.com