Bydd y digrifwr Jason Manford yn sbarduno gŵyl y Nadolig trwy droi goleuadau Nadolig Y Rhyl ymlaen y mis hwn.

Bydd y digrifwr, canwr a chyflwynydd teledu poblogaidd yn cynnau goleuadau Nadolig y dref ar y Stryd Fawr yn Y Rhyl Ddydd Sadwrn 27ain Tachwedd rhwng 4y.p. a  6y.h.

I ddiddanu’r torfeydd bydd Glowbot 6 troedfedd, cwmni perfformio Co-Creative, cyfle i beintio wynebau, modelu balŵn a bydd y noson yn gorffen gyda chlec y tân gwyllt.

Hefyd ar y llwyfan yn diddanu’r dorf bydd Mike Andrew yn dynwared Robbie Williams ynghyd a’r hyfryd Gem Johnson.

Dywedodd Jason Manford: “Ni allaf aros i ddod i Rhyl, mae’n le gwych i berfformio ac mae yna awyrgylch anhygoel yno bob tro. Bydd troi’r goleuadau ymlaen yn cychwyn dathliadau’r Nadolig ac mae’n anrhydedd i mi gael fy ngwahodd eleni. Welwn ni chi yna! ”

Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych Cyf: “Rydyn ni wedi plesio’n fawr ein bod ni wedi gallu sicrhau perfformwyr arbennig i’r digwyddiad troi’r goleuadau ymlaen eleni, mae’r digwyddiad yma wedi cael ei sefydlu ers amser fel ffordd o gynnau’r dathliadau Nadolig. Byddem yn annog pobl i ymuno â’r gweithgareddau ac ysbryd yr ŵyl gyda Hamdden Sir Ddinbych Cyf a Chyngor Tref Y Rhyl. ”

Dywedodd Maer Cynghorydd Y Rhyl Diane King: “Rydyn ni mor falch o allu cefnogi digwyddiad cynnau’r goleuadau Nadolig eleni. Uchafbwynt yng nghalendr digwyddiadau’r dref, gwnaethom ni wir golli’r digwyddiad goleuadau llynedd. Ond rydyn ni’n ôl gyda disgleirdeb ac yn edrych ymlaen at groesawu Jason Manford i’r Rhyl i ddechrau’r dathliadau cyn ei berfformiad yn y Pafiliwn. ”

Am ragor o wybodaeth, ewch i: denbighshireleisure.co.uk/RhylLightSwitchOn