Ar Ddydd Sadwrn 11eg o Fedi, bydd Hamdden Sir Ddinbych Cyf yn goleuo ei atyniadau i gofio’r rhai a gollodd eu bywydau yn drasig 20 mlynedd yn ôl, ar y diwrnod lle safodd y byd yn llonydd.

Bydd Dydd Sadwrn yn nodi 20 mlynedd ers safodd y byd yn llonydd. Roedd ymosodiadau Medi 11, neu 9/11, yn gyfres o bedwar ymosodiad terfysgol oedd wedi ei chyd-drefnu a ddigwyddodd yn yr Unol Daleithiau America, gan dargedu adeiladau Americanaidd arwyddocaol, gan gynnwys ‘Twin Towers’ Canolfan Masnach y Byd a’r Pentagon.

Bydd Twr Awyr Y Rhyl, Theatr Pafiliwn Y Rhyl, bwyty a bar 1891, rhaeadr yr Arena Digwyddiadau ac mannau aros bysiau arfordirol i gyd wedi’u goleuo mewn glas coch a gwyn Ddydd Sadwrn yma i adlewyrchu lliwiau baner UDA.

Bu farw bron i 3,000 o bobl rhwng y diwrnod hwnnw a’r diwrnodau canlynol oherwydd anafiadau, gan gynnwys 441 o weithwyr argyfwng a’r dioddefwr ieuengaf oedd ond yn ddwy oed. O’r miloedd o bobl a anafwyd, datblygodd rhai ohonynt afiechydon yn gysylltiedig â’r ymosodiadau gan gynnwys y diffoddwyr tân a oedd wedi ymladd trwy’r holl rwbel gwenwynig.

Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych Cyf, Jamie Groves “Mae’n anodd credu bod 20 mlynedd wedi mynd heibio ers digwyddiadau trychinebus 9/11. Wrth oleuo atyniadau Hamdden Sir Ddinbych yn Y Rhyl, hoffem i bawb yn Sir Ddinbych a thu hwnt ymuno â ni i dalu teyrnged i bawb a gollodd eu bywydau ac i’r gweithwyr argyfwng arwrol a roddodd eu bywydau mewn perygl y diwrnod hwnnw. Mae’n hynod o bwysig i ni gofio dyddiau fel hyn, i beidio cymryd amser gyda’n teulu a ffrindiau yn ganiataol ac i werthfawrogi pob eiliad. ”