Mae Ian Gwyn Hughes, Pennaeth Cysylltiadau Cyhoeddus Cymdeithas Bêl-droed Cymru, wedi’i gadarnhau fel y Cyflwynydd ar gyfer Gwobrau Cymunedau Bywiog mawreddog HSDd yn yr hydref.

Cynhelir y seremoni wobrwyo, sy’n dathlu unigolion, clybiau, timau, ysgolion a gweithleoedd ysbrydoledig o fewn y gymuned gerddoriaeth, celfyddydau a chwaraeon yn Sir Ddinbych, ar nos Fercher, 22 Tachwedd yn Theatr Pafiliwn y Rhyl.

Cafodd Ian Gwyn Hughes ei eni ym Mae Colwyn ac aeth i Ysgol Bod Alaw, yna Ysgol Uwchradd Colwyn ac Ysgol Glan Clwyd, cyn mynd ymlaen i Brifysgol Aberystwyth i astudio Hanes a Gwleidyddiaeth Ryngwladol. Doth o hyd i’w lwybr gyrfa yn fuan, wrth ddechrau darlledu i Gwmni Darlledu Caerdydd, cyn treulio 20 mlynedd yn gweithio i’r BBC, fel cyflwynydd chwaraeon adnabyddus a sylwebydd pêl-droed poblogaidd i BBC Cymru a Match of the Day. Ymunodd â CBDC yn 2011 i reoli’r cyfryngau a chysylltiadau cyhoeddus ar gyfer tîm cenedlaethol dynion Cymru, a fuodd yn cefnogi’r tîm trwy ddwy bencampwriaeth Euro a Chwpan y Byd.

Mae categorïau’r Gwobrau’n cynnwys – Gwirfoddolwr y Flwyddyn, Ysgol Gynradd y Flwyddyn, Ysgol Uwchradd y Flwyddyn, Hyfforddwr Chwaraeon y Flwyddyn, Clwb Chwaraeon y Flwyddyn, Prosiect Celfyddydau mewn Iechyd, Prosiect Creadigol Cymunedol, Gweithle Gweithgar y Flwyddyn, Ysbrydoliaeth Ifanc, Gwobr Rhagoriaeth – Person ifanc, Gwobr Rhagoriaeth – Oedolyn, a Gwobr Cyrhaeddiad Oes. Mae’r enwebiadau’n cau ar 31 Gorffennaf, felly mae HSDdCyf yn annog pobl i enwebu cyn gynted â phosibl.

Meddai Ian Gwyn Hughes, “Rwy’n edrych ymlaen at gael cynnal y digwyddiad. Er fy mod wedi byw yng Nghaerdydd ers 1982 rwy’n dal i feddwl am Ogledd Cymru fel adref. Yno ces i fy magu, a dyna wnaeth siapio fy niddordeb mewn chwaraeon.

Roedd pêl-droed yn rhan enfawr o fy mywyd wrth dyfu i fyny yn yr ardal. Mae gen i deulu wedi eu gwasgaru o amgylch Gogledd Cymru i gyd. Bydd bod yn y Rhyl yn dod ag atgofion melys yn ôl o’r oriau a dreuliais yn fy mhlentyndod yn y Rhyl.

Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ddathlu llwyddiannau aelodau’r gymuned leol.”

Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych Cyf (HSDdCyf): “Mae llwyddiant ac enw da Ian fel un o leisiau enwocaf pêl-droed, yn adlewyrchiad o’i waith caled a’i ymroddiad i chwaraeon a diwylliant Cymreig dros y blynyddoedd. Rydym yn hynod o gyffrous bod ffigwr mor ysbrydoledig a dylanwadol o bêl-droed Cymru yn cynnal Gwobrau Cymunedau Bywiog eleni.”

I enwebu, neu am fwy o wybodaeth, ewch i: https://denbighshireleisure.co.uk/cy/ac-awards-23-2/