Dyma eich gwahoddiad! Parti diwedd tymor am ddim yng Nghwt y Traeth, Nova i ddod â’r Haf i ben gyda chlec.

Drwy gydol yr Haf, mae Hamdden Sir Ddinbych wedi plesio cannoedd o drigolion a thwristiaid gyda nifer o bartïon ar lan y môr AM DDIM.

O nosweithiau acwstig, i westeion arbennig, i DJs arddull Ibiza, gyda phethau am ddim, cerddoriaeth am ddim, mae’r tîm wedi mynd gam ymhellach i sicrhau bod hwn wedi bod yn haf i’w gofio i drigolion ac ymwelwyr.

Ymunwch â ni o 5pm yn y Cwt Traeth ar ddydd Sadwrn 3 Medi ar gyfer parti Ibiza diwedd tymor an ddim ar arfordir Gogledd Cymru!

Mae hwn yn barti na ddylid ei golli, gyda DJ byw, dawnswyr, GloBot a Sacsoffonydd.

Mae Nova yn gartref i’r Cwt Traeth enwog iawn, y bwyty dan do ac awyr agored poblogaidd ar lan y traeth, sy’n parhau i ddenu ymwelwyr o bell ac agos; ac mae wedi mynd o nerth i nerth dros Haf 2022. Gyda’i golygfeydd panoramig o arfordir Gogledd Cymru a bwydlen fendigedig, mae’n brofiad heb ei ail gyda chwsmeriaid yn dweud yn rheolaidd eu bod yn teimlo fel eu bod dramor wrth fwyta yno; maent hyd yn oed yn mynd mor bell â dweud mai’r cwt traeth yw’r rheswm y maent yn ymweld ag Arfordir Sir Ddinbych.

Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych Cyf: “Ni allem adael i’r Haf ddod i ben heb ei ddathlu gyda’n cwsmeriaid lleol, rydym wedi cynllunio’r digwyddiad hwn yn fwriadol ar ddiwedd gwyliau’r haf er mwyn darparu ar gyfer cymaint o’n trigolion lleol a chefnogwyr a phosib, dim ond gobeithio y bydd y tywydd yn garedig i ni. Rydym wrth ein bodd gyda llwyddiant y Cwt Traeth ac eisiau diolch i bawb sydd wedi dod draw am fwyd neu ddiod yr haf hwn. Mae’r parti hwn yn arbennig i ddiolch i’n cwsmeriaid lleol yn Sir Ddinbych am eu cefnogaeth ac rydym yn gofyn i’r gymuned leol gefnogi’r lleoliad gwych hwn a dathlu’r holl weithgareddau rhad ac am ddim rydym yn eu cynnal, gan ddod â phobl i mewn i’r dref ac ar hyd yr arfordir.”

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i https://beachhutnova.co.uk/cy/hafan/