Bu cannoedd o blant a theuluoedd yn y sesiynau teulu hwyl ac am ddim fel rhan o sesiynau hwyl Pasg HSDd, a chawsant wyliau i’w gofio.

Roedd dros 800 o bobl yn y saith sesiwn am ddim a gynhaliwyd dros bythefnos ar draws y sir.

Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr HSDd: “Rydym wrth ein bodd gyda’r ymateb i’r digwyddiadau rydym wedi’u cynnal ar gyfer teuluoedd ledled y sir. Mae ein tîm Cymunedau Bywiog yn gweithio’n ddi-ffael i sicrhau bod pobl yn cael gwyliau Pasg pleserus ac rydym yn falch o gynnig y digwyddiadau hyn yn rhad ac am ddim. Mae HSDd wedi ymrwymo i ddarparu hwyl am ddim i’r teulu yn ystod cyfnod economaidd heriol ac ni allwn aros i weld pawb yn ein sesiynau nesaf yn y misoedd nesaf.”

Cafodd y sesiynau, a gynhaliwyd gan dîm Cymunedau Bywiog HSDd, groeso mawr gan y cymunedau lleol, gyda sesiynau’n cael eu cynnal yn y Rhyl, Llanelwy, Llangollen, Rhuthun a Chorwen, drwy gydol gwyliau’r Pasg.

Roedd gweithgareddau i blant yn cynnwys chwarae meddal, chwaraeon, cestyll neidio, cerddoriaeth, celf a chrefft, gweithgareddau synhwyraidd, gemau parasiwt, criced, tennis a gemau gardd.

Bydd manylion digwyddiadau’r dyfodol ar gael yn fuan, gan gynnwys sut i archebu lle. I gael rhagor o wybodaeth am y gwaith y mae tîm Cymunedau Bywiog HSDd yn ei wneud, ewch i www.denbighshireleisure.co.uk/activecommunities.