Mae cast cyffrous wedi’i gyhoeddi gan HSDdCyf ar gyfer eu pantomeim Nadolig yn theatr Pafiliwn y Rhyl.

Mae’r prif gast wedi’i gadarnhau ar gyfer panto eleni, ‘Jack and the Beanstalk’, pantomeim llawn hwyl sy’n argoeli i swyno cynulleidfaoedd o bob oed. Bydd y cast serol hwn yn dod â’r stori annwyl hon yn fyw, gan ei wneud yn ddigwyddiad na ellir ei golli’r Nadolig hwn!

Yn arwain y rhestr mae cystadleuydd cyffrous X Factor, Chico, sy’n siŵr o syfrdanu gyda’i berfformiad carismatig. Yn ymuno ag ef mae’r actor Graham Cole, sy’n fwyaf adnabyddus am ei rôl eiconig yng nghyfres deledu ‘The Bill’, gan ychwanegu

Bydd dilynwyr y comedi Brydeinig glasurol ‘Allo Allo’ yn falch iawn o weld Arthur Bostrom yn camu ar y llwyfan gyda’i ddisgleirdeb digrif. Ac nid dyna’r cwbl; bydd Jamie a Chuck, a wnaeth gyrraedd rownd derfynol Britain’s Got Talent, yn arddangos eu doniau anhygoel, gan ddod ag egni unigryw a chyfareddol i’r sioe.

Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych Cyf (HSDdCyf) “Rydym yn falch iawn o fod yn bartner gydag Anton Benson Productions ar gyfer ein pantomeim Nadolig eto eleni. Mae’n amser i deuluoedd ddod at ei gilydd a mwynhau llawenydd yr ŵyl, ac mae ein theatr yn lle perffaith i ddod â phawb at ei gilydd, cael hwyl a chreu atgofion parhaol!”

Mae Jac a’r Goeden Ffa yn agor ei llenni ar Ragfyr 9, 2023, a bydd yn para tan Nos Galan, Rhagfyr 31ain. Mae’r cynhyrchiad hudolus hwn yn addo adegau o chwerthin, antur, ac eiliadau twymgalon i’r teulu cyfan eu mwynhau yn ystod y tymor gwyliau.

Mae tocynnau ar gael i’w prynu ar wefan Pafiliwn y Rhyl https://rhylpavilion.co.uk/events_list/jack-and-the-beanstalk/ neu drwy ffonio’r swyddfa docynnau ar 01745 330000. Peidiwch â cholli’ch cyfle i gychwyn ar y daith hudolus hon gyda’n cast gwych y Nadolig hwn!