Y seren ddawns Louise Spence, enillwyr Britain’s Got Talent George Sampson ac Ashleigh a Sully, ac yn dychwelyd ar ôl Panto Nadolig hynod o boblogaidd ym Mhafiliwn y Rhyl, mae’r ffefrynnau Jamie a Chuck.

Mae Anton Benson Productions yn falch o gyhoeddi eu bod yn dychwelyd i Theatr Pafiliwn y Rhyl y Pasg hwn gyda chynhyrchiad cyffrous arall i’r teulu cyfan, ‘Robin Hood’.

Mae’r stori oesol o arwriaeth ac antur yn argoeli i fod yn brofiad gwefreiddiol i gynulleidfaoedd o bob oed, yn llawn chwerthin, cerddoriaeth a momentau bythgofiadwy.

Yn serennu ym mhantomeim y Pasg eleni fydd y seren deledu a dawns garismataidd, Louie Spence. Yn enwog am ei berfformiadau dynamig a phersonoliaeth heintus, bydd Spence yn chwarae rôl eiconig Robin Hood, gan arwain cast anhygoel sy’n cynnwys enillwyr Britain’s Got Talent George Sampson ac Ashleigh a Sully. I ychwanegu at y cyffro, bydd y ddeuawd hoffus Jamie a Chuck yn dychwelyd i’r llwyfan.

Meddai Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr DLL: “Rydym yn falch o weithio mewn partneriaeth gydag Anton Benson Productions unwaith eto ar gyfer pantomeim anhygoel arall. Gyda chast gwych wedi’i arwain gan Louie Spence, George Sampson ac Ashleigh a Sully, mae ‘Robin Hood’ yn argoeli i fod yn strafagansa Pasg gall y teulu cyfan ei fwynhau. Rydym yn falch o groesawu cynulleidfaoedd yn ôl i Theatr Pafiliwn y Rhyl bob Pasg, sydd bob amser yn bleser dros y gwyliau!”

Bydd Robin Hood yn cael ei ddangos yn Theatr Pafiliwn y Rhyl ar ddydd Sadwrn 30 Mawrth, gyda pherfformiadau am 2pm a 6pm, yn ogystal â dydd Sul 31 Mawrth am 2pm, ac mae prisiau tocynnau yn dechrau ar £16.50.

Peidiwch â cholli cyfle i fod yn rhan o’r antur! Archebwch eich tocynnau ar gyfer Robin Hood rŵan: https://mpv.tickets.com/schedule/?agency=PAVV_MPV&orgid=55080#/?event=robin&view=list&includePackages=false