Mae Theatr Pafiliwn Y Rhyl yn croesawu seren Opera Sebon ac enillydd Dancing on Ice Hayley Tamaddon fel y Tylwyth Teg yn Sinderela o Ddydd Mercher 8fed i Ddydd Gwener 31ain Rhagfyr 2021.

Sgleiniwch eich pwmpenni a dystiwch eich sliperi crisial i fwynhau perfformiad bore, prynhawn neu gyda’r nos o Sinderela yn Theatr Pafiliwn y Rhyl trwy gydol mis Rhagfyr gyda setiau syfrdanol, gwisgoedd cyfoethog, cân, chwerthin a llwyth o gyfranogiad gynulleidfa.

Nid yw Hayley Tamaddon yn ddieithr i bantomeim ac fel cyn-enillydd Dancing on Ice bydd angen iddi ddefnyddio ei holl driciau i helpu seren CBBC Balamory Andrew Agnew I drechu’r Llyschwiorydd drygionus Jamie Morris & Tarot Joseph (a enwebwyd fel y Chwiorydd Hyll Gorau yn y Great British Pantomime Awards).

Bydd yr arwres hardd Sinderela yn cael ei chwarae gan y seren theatr gerdd Bethan Jacks, a’r actor comig Cymreig Gwynfryn West yn chwarae ei Thad byrlymus Baron Hardup. Josh Belward fydd yn camu i fynnu i safle’r Tywysog cyfareddol, a’i ffrind Dandini yn cael ei chwarae gan Mark Paterson.

Ni fyddai unrhyw daith i’r Ddawns yn gyflawn heb dwy Ferlen Shetland hardd a fydd yn dwyn eich calon ac yn cludo ein tywysoges i’w thynged, ond tybed a fydd y Llyschwiorydd drygionus yn mynd yn y ffordd … archebwch eich tocynnau i weld.

Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych Cyf “Ar ôl blwyddyn anodd a dweud y lleiaf, rydym yn edrych ymlaen yn fawr i ddod a Panto yn ôl i Theatr Pafiliwn Y Rhyl. Mae’n wych gweld perfformwyr yn ôl ar eu gorau ar ôl cyfnod heriol a gallwn ni ddim aros i groesawu ysgolion a theuluoedd yn ôl trwy ddrysau’r awditoriwm i brofi awyrgylch trydanol Theatr y Pafiliwn eto. ”

Dywedodd y Cynhyrchydd Pantomeim Martin Dodd “Rydyn ni mor gyffrous i fod yn ôl gyda phantomeim yn y Pafiliwn y Nadolig hwn a hynny gyda’n hoff stori, Sinderela. Nid yw’r Nadolig yn Nadolig heb drip i’r panto ac rydym yn gwneud pob dim yn ein gallu a mwy i wneud y sioe hon y mwyaf a’r gorau erioed. Rydym wedi bod yn cynllunio hwn am ddwy flynedd felly gwnewch yn siŵr eich bod chi’n cael eich tocyn i’r Ddawns ac ymunwch â ni am berfformiad disglair na fyddwch chi’n difaru.”

Mae’ch cerbyd yn aros! Archebwch eich tocynnau ar-lein nawr i sicrhau’r seddi gorau: https://www.rhylpavilion.co.uk/events_list/cinderella-4/ neu ffoniwch swyddfa docynnau Theatr Pafiliwn Y Rhyl ar 01745 330000.