Mae ardal chwarae antur newydd sbon i blant ar thema môr-ladron yn agor yn Nova Prestatyn y penwythnos hwn.

Mae’r ardal chwarae benigamp yn fwy, yn dalach ac yn llawn dop, yn fwy na’r strwythur chwarae blaenorol yn Nova, ac mae’n cynnwys ffatri hufen iâ newydd a chaffi chwarae antur i ymlacio ac ail-lenwi ar ôl chwarae.

Mae’r chwarae antur ar thema môr-ladron yn cynnwys dwy sleid, nodweddion dringo, chwarae meddal, nifer o rwystrau hwyliog ac ardal chwarae benodol i blant bach, sy’n briodol ar gyfer pob plentyn hyd at 1.48m o daldra.

Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych Cyf: “Mae Nova yn dod yn ddewis blaenorol ar arfordir Gogledd Cymru i bobl ymarfer corff, bwyta a nawr chwarae hefyd! Mae’r ardal chwarae antur newydd hon wedi ei dylunio i greu profiad chwarae arbennig heb ei ail. Dyma enghraifft arall o ymrwymiad parhaus Hamdden Sir Ddinbych i ddarparu atyniadau o’r safon uchaf.

“Nawr gall y teulu cyfan fwynhau Nova, wrth ymarfer yng Nghlwb Nova, sydd yn cynnwys bar i aelodau gyda diodydd a byrbrydau iach, nofio yn ein pwll 25m, mwynhau pryd o fwyd wrth ymlacio gyda’r teulu yng Nghwt y Traeth, neu ymlacio ar ôl wythnos galed gydag un o’n coctels bendigedig ym Mojitos. Nawr gall y plant fwynhau Nova hefyd, gyda’r caffi chwarae antur a’r ffatri Hufen Iâ, nid yw’n ganolfan chwarae arferol.

“Allwn ni ddim aros i bawb ddod i fwynhau’r profiad newydd hwn, ond byddwch yn amyneddgar gyda ni gan fod gennym ni rai nodweddion bach olaf i’w rhoi at ei gilydd, gan gynnwys dodrefn newydd a thema rydym yn gobeithio bydd yn eu lle ar gyfer yr haf!”

Bydd yr ardal chwarae antur newydd yn agor ddydd Sadwrn yma, 2 Ebrill, gyda rhywfaint o waith yn parhau am yr ychydig wythnosau nesaf, gan gynnwys themâu newydd a dodrefn yn cyrraedd cyn yr haf.

I archebu eich sesiwn ffoniwch wasanaethau gwesteion Nova ar 01824 712323.