Ahoi! Bydd môr-ladron yn meddiannu’r ardal Chwarae Antur yn Nova dros yr wythnosau nesaf i drawsnewid ardal Chwarae Nova a’r Caffi fewn i ynys llawn trysor ac anturiaethau.

Lle Chwarae Nova yw un o’r canolfannau Chwarae Antur fwyaf yng ngogledd Cymru ac mae’n mynd o nerth i nerth.

Roedd y difrod ar y to wedi’i greu gan Storm Eunice wedi achosi i Chwarae Antur Nova gau’r wythnos diwethaf, felly tra bod y cyfleuster ar gau i’w atgyweirio, mae Hamdden Sir Ddinbych Cyf wedi cymryd y cyfle i wella’r ardal chwarae a’r caffi, ac ailagor gyda gwedd newydd gyffrous.

Wedi llwyddiant y Lle Chwarae Antur yn SC2 a’r tyrfaoedd a fu’n heidio i Gwt y Traeth yn yr Haf, mae’r lle chwarae’n cael ei ailwampio’n llwyr gan roi stamp Hamdden Sir Ddinbych arno go iawn. Bydd y strwythur chwarae yn dyblu mewn maint ac yn cael ei drawsnewid gydag addurniadau newydd ar thema môr-ladron.

Meddai Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych Cyf: “Tra bod gwaith atgyweirio ar y to yn cael ei wneud, rydym wedi penderfynu dod â’r rhaglen yr oeddem wedi’i chynllunio i wella’r profiad chwarae yn Nova ymlaen. Rydyn ni eisiau gwneud yn siŵr bod ymwelwyr a chwsmeriaid yn dychwelyd i’r profiad cwsmer o safon y maen nhw wedi dod i’w ddisgwyl gan Hamdden Sir Ddinbych, ac o safbwynt busnes mae hyn nawr yn golygu nad oes rhaid i ni gau i wella’r ardal chwarae. Bydd cymryd y cyfle hwn yn rhoi profiad newydd i’n cwsmeriaid edrych ymlaen ato.

“Lle Chwarae Nova yw’r un mwyaf poblogaidd yn y rhanbarth ac mae cwsmeriaid yn trafeilio o bell ac agos i chwarae ar y strwythur unigryw sydd yma. Mae Cwt y Traeth, Nova wedi bod yn llwyddiant ysgubol ers iddo agor, ac wedi lansio Clwb Nova, ein profiad ffitrwydd blaenllaw gyda bar clwb unigryw, iawn o beth oedd inni fuddsoddi yn ein lle chwarae hefyd fel ei fod cystal â phob dim arall sydd gennym i’w gynnig yn Nova. Mae hyn yn cadarnhau ein henw da fel y gyrchfan hamdden orau yng ngogledd Cymru.”

Bydd y gwaith yn dechrau ar 28.2.22 a disgwylir ei gwblhau ymhen pedair wythnos.

Ychwanegodd Jamie: “P’un a ydych chi’n edrych i ymlacio gyda choctel ger Cwt y Traeth, mwynhau cinio dydd Sul bendigedig, hyfforddi fel athletwr o fri yng Nghlwb Nova neu adael i’r plant redeg yn rhydd yn y lle chwarae, mae rhywbeth at ddant pawb yn Nova.”