Mae’n bleser gan Hamdden Sir Ddinbych Cyf (HSDdCyf) ar y cyd ag Anton Benson Productions, gyhoeddi bod pantomeim hudolus Cinderella yn dychwelyd i Theatr Pafiliwn y Rhyl ar gyfer Nadolig 2024.

Mae’r cynhyrchiad hwn yn 2024 yn dilyn llwyddiant aruthrol pantomeim poblogaidd eleni sef “Jack and the Beanstalk,” a syfrdanodd y cynulleidfaoedd a gwneud iddyn nhw deimlo’n gyffrous ar gyfer yr hud sydd o’u blaenau nhw’r Nadolig nesaf.

Bydd Cinderella yn brofiad gwefreiddiol i gynulleidfaoedd o bob oed a fydd yn cael ei berfformio o 7 Rhagfyr tan 31 Rhagfyr 2024. Bydd y cast o sêr a fydd yn perfformio yn cael ei gyhoeddi yn y flwyddyn newydd, ac mae HSDd yn falch iawn o barhau â’i bartneriaeth lwyddiannus ag Anton Benson Productions am y trydydd Nadolig yn olynol. 

Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr HSDdCyf “Rydym ni’n falch iawn o gael parhau i gydweithio ag Anton Benson Productions ar gyfer cynhyrchiad pantomeim Nadolig gwych arall.  Roedd llwyddiant pantomeim ‘dolig 2023, ‘Jack and the Beanstalk’, yn uwch na’r disgwyl ac yr oeddem ni’n ysu i gael cyhoeddi mai pantomeim y flwyddyn yma fyddai Cinderella.  Mae’r adborth cadarnhaol a gafwyd gan ein cynulleidfaoedd am ‘Jack and the Beanstalk’  wedi bod yn rhagorol ac yr ydym ni’n awyddus i barhau â’r traddodiad o gyflwyno profiadau cofiadwy i’n cymuned yn ystod tymor y Nadolig.”

Gan ychwanegu at yr adolygiadau anhygoel o bantomeim eleni, rhannodd un aelod brwdfrydig o’r gynulleidfa ei gyffro, gan ddweud, “Ar ôl yr holl flynyddoedd o fynd i bantomeim y Rhyl, mae perfformiad eleni yn un o fy ffefrynnau! Roedd y jôcs yn ddoniol tu hwnt am eu bod nhw mor wael, ac yr oedd y sgetsh am 12 Diwrnod y Nadolig yn hollol wych! Roedd y ffaith eu bod nhw’n rhedeg drwy’r gynulleidfa ac yn rhyngweithio yn ardderchog. Mae’n rhaid i chi fynd i weld y sioe hon!”

Peidiwch â cholli’r cyfle i brofi hud Cinderella yn Theatr Pafiliwn y Rhyl. Mae tocynnau nawr ar gael i’w prynu ar wefan Pafiliwn y Rhyl: https://mpv.tickets.com/schedule/?agency=PAVV_MPV&orgid=55080#/?event=Cinderella&view=list&start=2024-12-01&includePackages=false neu drwy ffonio’r swyddfa docynnau ar 01745 330000. Gwnewch y Nadolig nesaf yn un cofiadwy gyda chwedl arbennig Sinderela, wrth iddo ddod yn fyw gyda dalent eithriadol Anton Benson Productions a HSDdCyf.