Mae DLL yn cynnig dewis chwaethus o fwytai a chaffis, perffaith i unrhyw un sy’n chwilio am brofiad bwyta o safon, gyda gwasanaeth cyfeillgar a phrydau wedi’u coginio’n hyfryd.
Mae gan Deras 1891 yn y Rhyl, gyda’i olygfeydd godidog ar draws arfordir Gogledd Cymru, naws hamddenol, cyfeillgar a bwydlen gyffrous o fyrgyrs ysgafn, pitsas a diod.
Ychydig ymhellach ar hyd yr arfordir, gallwch fwynhau lleoliad Glan y Môr, y Cwt Traeth ym Mhrestatyn, neu ddewis ciniawa yn ein bwyty soffistigedig dan do, gydag amrywiaeth o fwydlenni blasus ar gyfer pob achlysur.
Mae Caffi 21, sydd wedi’i leoli yng Nghanolfan Fowlio Gogledd Cymru, yn enwog am ei awyrgylch cyfeillgar a’i ginio dydd Sul bendigedig, ac ymhellach i’r de, mae Caffi R yng Nghanolfan Grefftau Rhuthun yn lle perffaith i ddal i fyny â theulu a ffrindiau dros goffi a chacen, cinio neu un o’n seigiau arbennig.
Cardiau teyrngarwch DLL
Un stamp am bob £10 a wariwyd ar fwyd ar draws y Cwt Traeth, Nova, 1891 Y Rhyl, Caffi R Rhuthun, Caffi 21 Canolfan Fowlio Gogledd Cymru – gwariwch £10 yn unrhyw un o’r lleoliadau hynny a chewch 1 stamp. Unwaith i chi gyrraedd 10 stamp cewch prif bryd AM DDIM yn unrhyw un o’r lleoliadau hynny oddi ar y brif fwydlen.
Casglwch gerdyn teyrngarwch yn un o’r bwytai uchod i gymryd rhan.
Telerau ac amodau: Casglwch stamp am bob £10 a wariwyd ar fwyd yn y Cwt Traeth, Nova, Bwyty a Bar 1891, Caffi R yng nghanolfan grefftau rhuthun a Chaffi 21 yng Nghanolfan Bowlio Gogledd Cymru. Un stamp am bob £10 a wariwyd ar fwyd oddi ar y prif fwydlen, nid yw’n dillys ar gyfer bwydlenni eraill. Un prif bryd am ddim oddi ar y brif fwydlen. Cynnig ddim yn ddilys ar y cyd ag unrhyw gynnig arall neu gerdyn taleb.
Dyddiau Aur 1891
Cadwch lygad am Ddyddiau Aur sydd ar ddod lle gallwch chi fwynhau pryd o fwyd blasus yn ein bwyty syfrdanol 1891 gyda gostyngiad o 20% ar eich bil bwyd!
Telerau ac amodau:
Mae’r cynnig yn berthnasol i fil bwyd ar Ddyddiau Aur penodol yn unig, dewiswch fwydlen yn unig.
Gall dyddiau aur newid.
Mae’r cynnig yn ddilys o’r fwydlen A La Carte ar nosweithiau heb sioe.
Dyddiau aur i ddod:
31 Ionawr, 28 Chwefror, 4 Ebrill, 11 Ebrill, 18 Ebrill, 25 Ebrill, 6 Mehefin, 13 Mehefin, 20 Mehefin
Cynnig Te Hufen DLL
Ar gael o Ionawr 2025 yng Nghaffi R, Caffi 21, Cwt y Traeth, 1891
Telerau ac amodau:
Yn ddilys o ddydd Llun i ddydd Sadwrn yn y Cwt Traeth a Chaffi 21, o ddydd Mawrth i ddydd Sadwrn yng Nghaffi R, o ddydd Mercher i ddydd Sadwrn yn 1891.
Un ail-lenwad am ddim o de neu goffi fesul person.
Cynnig Cacen DLL
Ychwanegwch gacen fel pwdin am £2.50 yn unig (pan fyddwch chi’n prynu prif gwrs cinio).
Casglwch gerdyn teyrngarwch yn un o’r bwytai uchod i gymryd rhan.
Telerau ac amodau: Yn ddilys wrth brynu unrhyw brif bryd o’r fwydlen ginio. Yn ddilys o Ionawr 2025 tan 31 Mawrth, 2025.
Cynnig Brecwast Cynnar
Mwynhewch Goffi Costa am £1 yn unig gydag unrhyw Frecwast.
Ar gael cyn 11am o ddydd Llun – Gwener tan ddiwedd mis Mawrth yn y Cwt Traeth, Caffi R a Caffi 21.
Telerau ac amodau:
Mae cynnig o £1 yn berthnasol i unrhyw ddiodydd cost canolig poeth. Nid yw’n cynnwys ychwanegiadau/ surop.
Yn berthnasol wrth brynu unrhyw brif bryd brecwast.
Gall cwsmeriaid uwchraddio i ddiod mawr am £0.50 ychwanegol
Hufen Iâ Am Ddim i Blant yn 1891!
Hufen iâ am ddim i blant gyda phob pryd o fwyd plant ar ddydd Sul ym Mwyty 1891.
Telerau ac amodau:
Ar gael gyda phrif brydau pob plentyn a brynir. Mae’r cynnig yn berthnasol i fwydlen cinio Sul yn unig.