Mae’r ffenomenon ffitrwydd rhyngwladol, Clubbercise, yn dod i Hamdden Sir Ddinbych gyda dosbarthiadau newydd sbon yn dod i Hamdden Rhuthun a Chlwb Nova, Prestatyn.

Paratowch i gyfuno noson allan ag ymarfer corff – heb y sodlau na’r cur pen y bore wedyn! Mae Clubbercise® yn ymarfer corff llawn hwyl gyda cherddoriaeth arbennig ac sy’n cael canlyniadau gwych, gyda chlwbwyr yn llosgi hyd at 600 o galorïau pob ymarfer.

Bydd lansiad swyddogol Clubbercise yn dechrau gyda DJ a pharti yng Nghlwb Nova a’r Bar Nova newydd ar Hydref 22ain. Bydd 3 dosbarth yn cael eu cyflwyno gan ‘master Clubbercise trainers’ trwy gydol y nos. Bydd diodydd canmoliaethus wedi hynny, gan gynnwys setiau DJ byw rhwng y dosbarthiadau, ac ymddangosiad arbennig gan y ‘glowbot’ a oedd yn hynod o boblogaidd yn ystod parti Ibiza Cwt y Traeth ar ddiwedd yr Haf.

Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr Hamdden Sir Dinbych Cyf: “Rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio gyda chwmni mor uchel ei glod, Clubbercise yw’r ffordd berffaith i ddechrau eich penwythnos! P’un a ydych chi am ddal i fyny gyda ffrindiau neu eisiau cael fewn i siâp wrth gael hwyl. Bydd pob dosbarth yn rhan o’ch aelodaeth fisol felly does dim esgus i beidio â Thywynnu! ”

Cewch ymarfer i’ch hoff draciau, mae dosbarthiadau Clubbercise yn gymysgedd o ddawns, tynhau a combat, maent yn hawdd eu dilyn ac mae ganddynt opsiynau effaith uchel neu isel bob amser i weddu i bob lefel ffitrwydd.

Mae dosbarthiadau’n cael eu cynnal mewn ystafell dywyll gyda goleuadau disgo a glowsticks LED arbennig Clubbercise i ddechrau’r parti.

Gan ddechrau yn Rhuthun bob Nos Fercher a Chlwb Nova, Prestatyn bob Dydd Llun, Mercher a Gwener, cadwch lygad ar gyfryngau cymdeithasol Hamdden Sir Ddinbych am ddiweddariadau.

Mae lleoedd yn gyfyngedig – Archebwch ar-lein ymlaen llaw i sicrhau eich lle! Am ragor o wybodaeth, ewch i denbighshireleisure.co.uk/clubbercise