Mae HSDdCyf yn diolch i drigolion ac ymwelwyr am ‘Haf i’w gofio’ yn y Cwt Traeth Nova, ar ôl i’w parti diwedd tymor ddod â miloedd o bobl i draeth Prestatyn dydd Sadwrn diwethaf.

Daeth dros ddwy fil o bobl i’r arfordir ddydd Sadwrn diwethaf i ddathlu diwedd yr Haf gyda HSDdCyf yn y Cwt Traeth, Nova.

Roedd y diwrnod a oedd llawn hwyl i’r teulu yn boblogaidd iawn gyda phlant ac oedolion, gan gynnwys canonau ewyn, dawnswyr, DJ a gemau trwy gydol y dydd. Yna cynhaliwyd Parti Ibiza gyda’r nos, sydd bellach yn ddigwyddiad poblogaidd yn y Cwt Traeth, gyda dawnswyr Ibiza, Glowbot 7 troedfedd a DJ.

Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr HSDdCyf: “Roedd yn wych gweld cymaint o bobl yn mwynhau’r tywydd anhygoel yn y Cwt Traeth Nova y penwythnos diwethaf ar gyfer ein parti diwedd tymor! Y Cwt Traeth yw’r lleoliad perffaith i ddathlu’r Haf, mae gennym lawer o adloniant am ddim i’r teulu cyfan fwynhau’r diwrnod, yn ogystal â’n bwydlen fendigedig a’n coctels enwog, nid oes angen i chi fynd dramor i gael y naws Ibiza hwnnw, pan fedrwn ni ei drefnu i chi! Mae Nova Prestatyn bellach wedi’i gadarnhau ar y map ar gyfer hwyl yr haf ac rydym yn edrych ymlaen at y flwyddyn nesaf yn barod!”

Mae HSDdCyf bellach yn cynllunio rhaglen o ddigwyddiadau ar gyfer yr Hydref, gyda phartïon wedi’u cynllunio ar gyfer y 1891 Rhyl ym Mhafiliwn y Rhyl ar gyfer misoedd yr Hydref a’r Gaeaf.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.denbighshireleisure.co.uk