Mae DLL wedi derbyn grant cyffrous gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant a Rennir y DU, i weinyddu Cynllun Grantiau Cymunedol arall. Mae’r grant yn cyd-fynd â blaenoriaeth Cronfa Ffyniant a Rennir 25/26 sef Cymunedau a Lle, thema Cymunedau Iach, Diogel a Chynhwysol, ac is-thema Iach: Gwella iechyd a lles.

Drwy roi cyfle i glybiau a sefydliadau lleol wneud cais am gyllid cyfalaf i gefnogi’r themâu uchod, mae’n golygu y bydd mwy o weithgareddau’n digwydd mewn cyfleusterau lleol gwell. Y cyfanswm sydd ar gael yw £154,000.

Amcan darparu’r cynllun grant cymunedol hwn yw cefnogi cryfhau ein gwead cymdeithasol a’n hymdeimlad o falchder a pherthyn lleol a bydd ganddo fuddion tymor byr a thymor hwy.

Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr DLL: “Rydym wrth ein bodd unwaith eto o allu cefnogi clybiau a sefydliadau lleol i ddarparu cyllid i wella iechyd a lles trigolion Sir Ddinbych. Mae ein Cymuned yn un o dair colofn ein cwmni, ac mae helpu i gynnal cyfranogiad cymunedol a seilwaith clybiau yn parhau i fod yn flaenoriaeth i DLL. Gyda’r cyllid hwn gan Lywodraeth y DU, a Chyngor Sir Dinbych, bydd yn ein galluogi i helpu i gynnal a chefnogi grwpiau pwysig yn y trydydd sector, sefydliadau chwaraeon a diwylliannol. Mae llawer o glybiau a sefydliadau’n cael eu rhedeg gan wirfoddolwyr er budd y gymuned leol, ac yn darparu cyfleoedd i bobl ddod at ei gilydd, ac rydym yn gwybod bod hyn yn cael effaith gadarnhaol ar iechyd meddwl a lles pobl.”

Mae grwpiau gwirfoddol a chymunedol, clwb chwaraeon neu sefydliad cymunedol dielw, Cynghorau Plwyf a Thref, Elusennau sy’n darparu gwasanaethau a chymorth lleol ac Ysgolion a sefydliadau addysgol yn gymwys i wneud cais.

I fod yn gymwys, rhaid i chi allu dangos sut y bydd y prosiect yn cefnogi un o’r ddau ymyrraeth canlynol gan Gronfa Ffyniant a Rennir:

  • Cymunedau Iach, Diogel a Chynhwysol,
  • Gwella iechyd a lles

Mae grantiau cyfalaf rhwng £2,000 a £15,000 ar gael.

Mae’r rownd ariannu yn agor ddydd Llun 30 Mehefin ac yn cau ddydd Llun 28 Gorffennaf 2025. Mae’r holl gyllid cyfalaf ar gael i gefnogi clybiau chwaraeon a sefydliadau sy’n cefnogi gweithgareddau celfyddydol a diwylliannol.

Gallwch wneud cais trwy’r ffurflen gais y gellir ei lawrlwytho ar ein gwefan. Yna mae angen dychwelyd y ffurflen trwy e-bost i activecommunities@denbighshireleisure.co.uk neu drwy’r post i’r Tîm Cymunedau Bywiog, DLL, 8-11 Trem y Dyffryn, Ystâd Ddiwydiannol Colomendy, Dinbych LL16 5TX

Am ragor o wybodaeth, gan gynnwys telerau ac amodau llawn y grant, ewch i’n gwefan https://denbighshireleisure.co.uk/cy/dll-community-grant-scheme-2/