Ella Henderson yn ymddangos fel gwestai arbennig yn sioe Awyr Agored Arbennig Tom Grennan yn Arena Digwyddiadau’r Rhyl yr haf hwn
Mae Ella Henderson wedi cael ei chyhoeddi heddiw fel gwestai arbennig a fydd yn ymuno Tom Grennan yn Arena Digwyddiadau’r Rhyl ar 10 Gorffennaf, 2022.
Bydd y gantores a chyfansoddwr poblogaidd a ddechreuodd ei gyrfa lwyddiannus ar X Factor yn cefnogi ei albwm diweddaraf, ‘Everything I Didn’t Say’, yn dilyn llwyddiant ysgubol ei albwm cyntaf a gyrhaeddodd rhif 1 yn y siartiau DU, ‘Chapter One’.
Cafodd gorsaf drenau’r Rhyl ei gwneud yn enwog gan Ella Henderson nôl yn 2019 pan roddodd DJ BBC Radio 1 Nick Grimshaw anthem genedlaethol i’r Rhyl, ‘This is Rhyl’ ar ôl i wrandäwr BBC Radio 1 anfon neges destun i ddweud bod cân Ella, ‘This is Real’ ar y cyd gyda Jax Jones, a oedd yn cael ei chwarae’n aml ar y radio ar y pryd, yn swnio fel ‘This is Rhyl’ a dylid ei chwarae i bob teithiwr sy’n cyrraedd gorsaf drenau ‘R Rhyl.
Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych Cyf: “Mae gennym ni haf gwych wedi’i drefnu gydag Orchard Live o’n blaenau, gydag amrywiaeth o berfformwyr dawnus, mae’n haf na ddylid ei golli mewn gwirionedd. Mae’n wych gweld bod y buddsoddiadau yn yr atyniadau ar hyd arfordir y Rhyl bellach yn denu perfformwyr o bob rhan o’r wlad, ac yn rhoi Sir Ddinbych ar y map adloniant. Dyma enghraifft arall o’r Rhyl yn dod yn gyrchfan o ddewis i fuddsoddwyr a hyrwyddwyr”
Mae’r sioe yn Arena Digwyddiadau’r Rhyl yn dilyn y cyngerdd hynod lwyddiannus gyda Tom Jones ac yn cael ei chyflwyno unwaith eto gan yr hyrwyddwyr penigamp Orchard Live.
Dywedodd Pablo Janczur o Orchard Live, ‘Rydym yn gyffrous iawn am ddychwelyd i’r Rhyl ar ôl noson mor anhygoel a llwyddiannus gyda Syr Tom Jones yn ôl ym mis Medi, rydym yn edrych ymlaen at ddod yn ôl i’r Rhyl yr haf hwn!’’
Mae Ella Henderson a Tom Grennan yn ymuno â’r gyfres o artistiaid enwog sy’n dod i’r Arena Digwyddiadau ym mis Gorffennaf, gan gychwyn ar nos Wener 8 Gorffennaf gyda’r band rhagorol o Fanceinion James gyda chefnogaeth The Lightning Seeds a The Ks, ac yna Jack Savoretti gyda chefnogaeth Beverley Knight ar ddydd Sadwrn, Gorffennaf 9fed.
Mae tocynnau ar werth nawr drwy Swyddfa Docynnau Pafiliwn y Rhyl a Gigantic.com