Mae Hamdden Sir Ddinbych Cyfyngedig (DLL) yn falch iawn o gyhoeddi agoriad enwebiadau ar gyfer Gwobrau Cymunedau Bywiog mawreddog 2024, a fydd yn cydnabod ac yn dathlu cyfraniadau arbennig i fywyd cymunedol ar draws Sir Ddinbych.

Mae’r enwebiadau yn agor ddydd Sadwrn, 1 Mehefin 2024, a rhaid eu cwblhau a’u cyflwyno ar-lein cyn dydd Llun 15fed  Gorffennaf. I enwebu, ewch i: https://denbighshireleisure.co.uk/cy/gwobrau-cb-2024/

Mae’r gwobrau’n cynnwys ystod amrywiol o gategorïau gyda’r nod o amlygu ymdrechion rhagorol unigolion a grwpiau o fewn cymuned Sir Ddinbych.

Mae’r categorïau ar gyfer enwebiadau yn cynnwys Gwirfoddolwr y Flwyddyn, Ysgol Gynradd y Flwyddyn, Ysgol Uwchradd y Flwyddyn, Hyfforddwr Chwaraeon y Flwyddyn, Clwb Chwaraeon y Flwyddyn, Tîm y Flwyddyn, Prosiect Celfyddydau er Lles Gorau, Prosiect Creadigol Cymunedol Gorau, Ysbrydoliaeth Ifanc, Gwobr Rhagoriaeth – Person Ifanc, Gwobr Rhagoriaeth – Oedolyn a’r wobr uchel ei pharch; Cyflawniad Oes.

Bydd enillwyr y gwobrau mawreddog hyn yn cael eu hanrhydeddu mewn seremoni a gynhelir yn Theatr Pafiliwn y Rhyl nos Fercher, 13eg Tachwedd 2024.

Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr DLL: “Mae Gwobrau Cymunedau Bywiog DLL yn ddyddiad pwysig iawn ar y calendr digwyddiadau i ni gan ei fod yn rhoi’r cyfle i ni ddathlu ymdrechion arbennig unigolion a grwpiau sy’n gwneud gwahaniaeth sylweddol yn ein cymuned. Rydym hefyd yn ffodus iawn i gael Jason Mohammad, y darlledwr uchel ei barch, fel siaradwr gwadd a chyflwynydd y noson.”

Mae enillwyr 2023 i’w gweld yma: https://denbighshireleisure.co.uk/cy/gwobrau-cb-2024/

Yn ogystal â dathlu llwyddiannau ein henwebeion, mae DLL yn gyffrous i gomisiynu artist proffesiynol lleol neu ddatblygol i greu gwobrau a fydd yn cael eu cyflwyno i enillwyr y categorïau yng ngwobrau mis Tachwedd. Nod y fenter hon yw arddangos y dalent artistig anhygoel yn ein cymuned a darparu arwydd personol ac ystyrlon o gydnabyddiaeth i enillwyr y gwobrau.

Am fwy o wybodaeth am sut i gyflwyno enwebiadau a manylion am gyfrannu at y gwobrau artistig, ewch i’n gwefan: https://denbighshireleisure.co.uk/cy/gwobrau-cb-2024/  neu cysylltwch â ni: cymunedaubywiog@hamddensirddinbych.co.uk