Mae Hamdden Sir Ddinbych yn cynnal dros 1,000 o weithgareddau am ddim i deuluoedd gadw’n heini a chael hwyl y gaeaf hwn.

Yn dilyn Haf o Hwyl lwyddiannus, mae’r Gaeaf o Les yn cychwyn y mis hwn ar draws y sir gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru, i roi tocynnau am ddim i’r gymuned i atyniadau a safleoedd Hamdden Sir Ddinbych.

Bydd dros 1,000 o docynnau am ddim ar gael i’r cyhoedd, gan gynnwys tocynnau Ninja TAG am ddim, tocynnau i weithgareddau gwyliau Sport Zone yn Rhuthun, Dinbych a’r Rhyl, tocynnau i chwarae yn safle Chwarae Antur Nova a Chwarae Antur SC2, yn ogystal â Chwarae Meddal yn Llangollen , Rhuthun a’r Rhyl, a llawer mwy o weithgareddau’n cael eu cynnig, gan gynnwys llogi cyrtiau badminton am ddim i deuluoedd a sesiynau Learn2Ride.

Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych Cyf: “Mae Ionawr yn fis anodd i bawb, yn enwedig eto eleni gyda Covid-19, felly rydym yn falch iawn o fod yn rhoi miloedd o docynnau am ddim i blant a theuluoedd i fynd allan mis Ionawr yma, i gadw’n heini a chael hwyl, mewn amgylchedd diogel. Bydd y cyllid hwn gan Lywodraeth Cymru yn helpu pobl i ddechrau’r flwyddyn newydd mewn ffordd hwyliog a chadw’n heini ar yr un pryd.”

Am ragor o wybodaeth ewch i: www.denbighshireleisure.co.uk/winterofwellbeing