Mae HSDd wedi cael ‘canmoliaeth uchel’ yng Ngwobrau Cyllid Cymru yr wythnos hon.

Mewn seremoni fawreddog yng Nghaerdydd, cafodd Tîm Cyllid HSDd ‘ganmoliaeth uchel’ yn y categori ‘Tîm Cyllid Bach y Flwyddyn’ yng Ngwobrau Cyllid Cymru 2023.

Cynhaliwyd y Gwobrau cenedlaethol yn Neuadd Dinas Caerdydd ar Fai 12fed ac roedd ffigyrau blaenllaw o’r diwydiant cyllid yn bresennol, ac yn dathlu gwaith gweithwyr cyllid proffesiynol a’u cyfraniad i’r busnesau y maent yn eu cynrychioli.

Roedd y digwyddiad yn arddangos rhagoriaeth mewn Cyllid o bob rhan o Gymru, a HSDd oedd yr unig dîm o Ogledd Cymru i gael eu cydnabod yn eu categori.

Derbyniodd digwyddiad Gwobrwyo 2023 y nifer uchaf erioed o geisiadau, ac roedd categori Tîm Cyllid Bach y Flwyddyn yn arbennig o gystadleuol.

Meddai Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr: “Ers lansio HSDd yn 2020, mae’r tîm cyllid wedi wynebu nifer o heriau, y maent wedi mynd i’r afael â nhw yn uniongyrchol. Maent wedi parhau i fod yn llawn cymhelliant a brwdfrydedd drwy’r amser, gan wneud eu gorau glas i’r cwmni yn barhaus. Mae’r tîm bellach yn gyrru cymaint o elfennau o’n twf, fel eu bod bellach yn gwbl annatod i’n llwyddiant. Hyd at nos Wener maent wedi bod yn arwyr di-glod HSDd, ac mae eu gweld yn ennill cydnabyddiaeth allanol am eu holl waith anhygoel yn fy ngwneud yn falch iawn. Ni allem ofyn am dîm gwell neu fwy brwdfrydig.”