Summer to remember for Denbighshire coast

Yn y tywydd bendigedig dros y penwythnos, gwelwyd cannoedd o ymwelwyr a thrigolion lleol yn mwynhau Cwt y Traeth, Nova yn yr hyn a ddisgrifir fel ‘dechrau Haf i’w gofio’.

Yn Y Rhyl, mae gwaith yn mynd rhagddo i ailagor bar, bwyty a Theras 1891 dros y Pasg, bydd Pafiliwn y Rhyl yn cynnal amryw o sioeau drwy’r flwyddyn, gobeithir y bydd SkyFlyer a noddir gan ZipWorld yn hedfan drws nesaf i Bafiliwn y Rhyl ac mae SC2 yn paratoi i ailagor y Pad Sblasio, yn cynnwys eu Partïon Traeth blynyddol.

Os ydych chi’n chwilio am bysgod a sglodion arbennig, bydd The Shack ar Bromenâd Y Rhyl yn ei ôl y tymor hwn gyda physgod a sglodion ffres, byrbrydau a diodydd i gerddwyr a rhai sy’n ymweld â’r traeth. Bydd Arena Ddigwyddiadau y Rhyl hefyd yn croesawu nifer o artistiaid yr Haf hwn, a bydd Tom Grennan, James a Jack Savoretti yn chwarae gigs enfawr ar lan y môr.

Ym Mhrestatyn, bydd bwydlen flasus yr Haf yn ei hôl yng Nghwt y Traeth, bydd bar Mojitos yn ailagor yng Nghwt y Traeth ym Mhrestatyn, ac mae dau ddiwrnod o hwyl i’r teulu eisoes wedi eu cynllunio ar gyfer dechrau’r haf. Agorwyd ardal chwarae antur newydd sbon yn Nova y penwythnos hwn, sy’n cynnwys thema môr-ladron anhygoel a ffatri hufen-iâ newydd sbon sy’n gwerthu danteithion bendigedig. 

Mae amryw o weithgareddau eraill yn cael eu trefnu ar gyfer yr Haf, a bydd tomen o lefydd y gall trigolion lleol ddewis ymweld â nhw er mwyn ymlacio ar ddiwedd wythnos hir, neu greu atgofion yn ystod y gwyliau yn un o atyniadau, bariau, bwytai a phrofiadau ffitrwydd Hamdden Sir Ddinbych.

Meddai Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych Cyf: “Roedd hi’n wych gweld cymaint o bobl yn mwynhau eu hunain dros y penwythnos. Mae’n braf cael ychydig o normalrwydd unwaith eto ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at groesawu pawb yn ôl i’n hatyniadau gan fod y tywydd yn dechrau cynhesu. Bydd hwn yn sicr yn Haf i’w gofio ar Arfordir Sir Ddinbych, cadwch lygad allan am fwy o wybodaeth!”