Mae Hamdden Sir Ddinbych Cyf yn dathlu ar ôl ennill gwobr Arian yng ‘Ngwobrau Balchder’ y Sefydliad Siartredig Cysylltiadau Cyhoeddus, yng Nghaerdydd.

Roedd y cwmni ar y rhestr fer ar gyfer pum gwobr gan ennill gwobr Arian am y ’Defnydd Orau o Gynnwys’, a ddyfarnwyd am y creadigrwydd, gwaith tîm a gwaith caled a fu’n rhan o hyrwyddo eu hymgyrch ffitrwydd dymhorol.

Roedd y categorïau yr oedd Hamdden Sir Ddinbych Cyf ar y rhestr fer ynddynt yn cynnwys Ymgyrch Cyllideb Fach, Defnydd Gorau o Gynnwys, Digwyddiad Gorau, Ymgyrch Hirdymor Orau, a Thîm Cysylltiadau Cyhoeddus Mewnol y Flwyddyn.

Meddai Rheolwr Gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych Cyf, Jamie Groves: “Rydym yn hynod o falch o fod wedi cyrraedd y rhestr fer ar draws Cymru am bum Gwobr fawreddog gan y Sefydliad Siartredig Cysylltiadau Cyhoeddus! Dyma gyflawniad arbennig, ac rydym yn falch iawn ohono. Mae ennill gwobr Arian genedlaethol yn gyflawniad hynod, mae’n dangos gwaith caled, ymroddiad a chreadigrwydd ein tîm yn Hamdden Sir Ddinbych Cyf, ac mae’n fraint fawr i ni gael cydnabyddiaeth am ein hymdrechion. Mae bob amser yn bleser gweld ein tîm yn cael y gydnabyddiaeth maen nhw’n ei haeddu am eu gwaith caled a’u hymroddiad. Mae llwyddiant parhaus ein timau yn profi bod diwylliant a dull gweithredu Hamdden Sir Ddinbych Cyf yn goleuo’r diwydiant ym mhob rhan o’r busnes; yn dilyn y ganmoliaeth ddiweddar am y tîm Cyllid gorau a’r wobr Genedlaethol am gyfraniadau i’r diwydiant Hamdden.”

Mae’r wobr Arian hon yn dilyn llwyddiant tîm Cyllid Hamdden Sir Ddinbych Cyf a enillodd wobr canmoliaeth uchel yn seremoni Gwobrau Cyllid Cymru yn gynharach eleni; a’r gwobrau Cenedlaethol UKActive am gyfraniadau sylweddol i’r diwydiant.

Am fwy o wybodaeth, ewch i www.hamddensirddinbych.co.uk.