Mae Hamdden Sir Ddinbych Cyf wedi darparu gwisgoedd i gôr Aelwyd Dyffryn Clwyd, i gydnabod eu camp wrth gael eu dewis i ganu fel côr swyddogol Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad ym Mirmingham.

Perfformiodd y côr yn ystod seremoni i’r athletwyr Cymreig yn Edgbaston, gan eu croesawu’n swyddogol i’r Gemau ar ddydd Mercher 27 Gorffennaf cyn y cystadlaethau chwaraeon cyntaf ar ddydd Gwener 29 Gorffennaf.

Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych Cyf: “Rydym yn falch iawn ein bod wedi darparu gwisgoedd newydd i gôr lleol Sir Ddinbych Aelwyd Dyffryn Clwyd ar gyfer eu hachlysur arbennig, yng Ngemau’r Gymanwlad. Mae hyn yn gamp enfawr iddyn nhw, yn cael eu dewis i gynrychioli Cymru. Rydym wrth ein bodd bod ein Swyddog Cysylltiadau Cyhoeddus a Marchnata Cymraeg, Leah, sy’n aelod o’r côr, wedi cael y cyfle gwych hwn, ac rydym yn edrych ymlaen ati gael rhannu ei phrofiadau gyda ni o daith y côr lawr i Firmingham. Llongyfarchiadau Leah a chyd-aelodau’r côr!”

Mae’r cystadlaethau chwaraeon yn dechrau’n swyddogol ddydd Gwener 29 Gorffennaf ac yn dod i ben ddydd Llun 8 Awst. Bydd y Gemau yn gweld mwy na 5,000 o athletwyr, gan gynrychioli 72 o wledydd a thiriogaethau mewn 19 o chwaraeon a 280 o fedalau.

Gyda’r digwyddiad yn cael ei gynnal bob pedair blynedd, hwn fydd y digwyddiad chwaraeon mwyaf i’w gael ei gynnal yn y DU ers Gemau Olympaidd 2012. Rhaglen cystadlaethau chwaraeon Birmingham eleni yw’r fwyaf yn hanes Gemau’r Gymanwlad, a bydd mwy o fedalau’n cael eu dyfarnu i fenywod na dynion am y tro cyntaf erioed mewn digwyddiad aml-chwaraeon mawr.

Enillodd Côr Aelwyd Dyffryn Clwyd eu cyfle drwy ddod yn gyntaf yng nghystadleuaeth y côr bach dan 40 mewn nifer yn Eisteddfod yr Urdd yn Ninbych nôl ym mis Mai.

Ysgrifennodd Prifathro Ysgol y Llys, Dyfan Mael Phillips, gerdd arbennig i’r côr ar gyfer eu taith lawr i Firmingham:

“Dim angen ‘speed’ i redeg sydyn.

Mond cyffur gorawl gan leisiau’r Dyffryn

Dros ein gwlad, mae’r gamp yn freuddwyd,

A nodau’r alaw gan ein Haelwyd”.

Gwelir llun wedi ei atodi o Aelwyd Dyffryn Clwyd ym Mhencadlys Hamdden Sir Ddinbych Cyf yn gwisgo eu crysau polo newydd sbon a noddir gan Hamdden Sir Ddinbych Cyf.

Gwelir hefyd, glip o Aelwyd Dyffryn Clwyd yn ymarfer yng ngemau’r Gymanwlad yn eu gwisgoedd newydd.