Gwnaeth Hamdden Sir Ddinbych, Cyngor Sir Ddinbych ac Alliance Leisure Services gyrraedd y rhestr fer ar gyfer wobr fawreddog i gydnabod llwyddiant SC2 Rhyl. Er na enillon nhw y tro hwn, mae bod ar y rhestr fer ar gyfer gwobr mor fawreddog yn anrhydedd ac yn gyflawniad ynddo’i hun.

Roedden nhw ar y rhestr fer heno yn seremoni Wobrwyo ukactive yng nghategori Cysyniad, Adeilad neu Ddyluniad Newydd y Flwyddyn. Y Gwobrau ukactive yw’r gwobrau mwyaf mawreddog o fewn y diwydiant hamdden, sydd yn agored i sefydliadau cyhoeddus a phreifat, ac sydd yn dathlu’r gwaith caled, y doniau a’r llwyddiannau amrywiol o bob rhan o’r sector. Mae’r categori Cysyniad, Adeilad neu Ddyluniad Newydd yn agored i sefydliadau sydd yn cynnig amgylcheddau ac/neu ardaloedd arbennig sydd yn ysbrydoli mwy o bobl i gadw’n heini, ac mae’r beirniaid yn chwilio am dystiolaeth o waith arloesol yn cael ei gyflawni yn llwyddiannus. Mae’r SC2 yn Y Rhyl yn esiampl arbennig arloesol, ac yn un o’i fath yn y DU – gyda pharc dŵr dan do / awyr agored yn ogystal â’r arena Ninja TAG fwyaf yn y DU. Mae’r cyfleuster hefyd yn cynnwys ardaloedd bwyd a diod â thema, man chwarae meddal ac ardaloedd parti ac ardal newid sydd wedi ei gymeradwyo gan Changing Places.

Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych “Mae pawb yn Hamdden Sir Ddinbych Cyf yn falch iawn ac wedi plesio o fod wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y wobr arbennig hon, sydd yn cymeradwyo’r holl waith caled dros y blynyddoedd diwethaf i greu atyniad anhygoel. Hoffem longyfarch yr holl gystadleuwyr eraill yn y categori. Roedd safon y prosiectau eraill a gyrhaeddodd y rhestr fer yn eithriadol o dda, sydd yn gwneud ein llwyddiant hyd yn oed yn fwy arbennig. Mae’r categori Cysyniad, Adeilad neu Ddyluniad Newydd yn ymwneud ag arloesedd a dulliau newydd sy’n gwthio’r ffiniau, ac mae hyn yn cyd-fynd yn dda iawn gyda phwrpas Hamdden Sir Ddinbych. Y bwriad ar gyfer SC2, a gafodd ei gynllunio gan Hamdden Sir Ddinbych, Cyngor Sir Ddinbych, a phartneriaeth Alliance Leisure oedd atynnu mwy o ymwelwyr i’r cyfleuster ac i gyfrannu at dwf yr economi lleol; wrth gynnig cyfleoedd gwaith newydd a darparu cyfleuster Hamdden i’r gymuned leol, ymwelwyr a thwristiaid. Mae hi wedi bod yn wych gwylio’r cysyniad gwreiddiol yma yn datblygu i mewn i realiti gydag ein hamcanion i gyd yn cael eu cyflawni ar hyd y daith. Heb amheuaeth, mae’r SC2, yn ogystal â’r datblygiadau eraill ardraws y glannau, wedi cynhyrchu llawer mwy o fuddsoddiad yn y sector breifat, a dyma oedd y bwriad gwreiddiol. Mae’r atyniad wedi dod â hyder i’r farchnad, a dyma un o’r prif resymau pam mae Rhyl bellach yn cael ei hystyried yn ardal i fuddsoddi yng Ngogledd Cymru a thu hwnt. Mae gwyliau lleol yn y DU wedi dod yn llawer mwy deniadol i bobl oherwydd datblygiadau hamdden a buddsoddiadau fel hyn”.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych, Hugh Evans OBE: “Ar ran Cyngor Sir Ddinbych, hoffwn longyfarch Hamdden Sir Ddinbych Cyf ac Alliance Leisure Services ar gyrraedd y rhestr fer ar gyfer y wobr wych hon. Mae ailwampio’r Rhyl yn flaenoriaeth allweddol i’r Cyngor ac roedd SC2 yn rhan bwysig o ddatblygiad y Glannau. Mae’n deimlad gwych gweld cydymdrechion ein hunain, Hamdden Sir Ddinbych ac Alliance Leisure Services yn cael eu cydnabod fel hyn. Rydym wedi ein plesio’n fawr gyda’r ffordd mae Hamdden Sir Ddinbych yn rheoli ac yn gweithredu ein hatyniadau hamdden, ac yn gwerthfawrogi’r gwaith caled a’r ymrwymiad maent wedi rhoi i sicrhau fod nhw yn gwneud cymaint o wahaniaeth a phosib i’n preswylwyr a thwf economaidd Y Rhyl a’r Sir.”

Dywedodd Sarah Watts, Prif Swyddog Gweithredol Alliance Leisure: “Roeddwn yn hynod o falch o weld SC2 ar y rhestr fer yn y gwobrau ukactive. Llongyfarchiadau mawr i’r enillydd, rydym yn falch iawn bod SC2 wedi’i gydnabod am wasanaethu ffordd arloesol, bleserus a hygyrch i bobl fod yn fwy heini, yn fwy aml.”