Bydd Hamdden Sir Ddinbych Cyf yn cynnal dau ddigwyddiad parth cefnogwyr yn Neuadd y Dref Y Rhyl fis nesaf, wrth i Gymru ddechrau eu hymgyrch Cwpan y Byd yn Qatar.

Wrth i rowndiau terfynol Cwpan y Byd agosáu ac wrth i gyffro gynyddu ar draws y genedl, ni fydd llawer o gefnogwyr Cymru yn gallu gwneud y daith 3000+ o filltiroedd i fwynhau Cwpan y Byd cyntaf eu tîm ers 1958. Felly i’r rhai sy’n bwriadu gwylio gartref y gaeaf hwn, Mae Hamdden Sir Ddinbych Cyf yn sicrhau nad yw cefnogwyr yn colli munud o’r cynnwrf  gyda dau ddigwyddiad parth ffan yn cael eu cynnal yn Neuadd y Dref Y Rhyl.

Gyda sgrin deledu 15 troedfedd, adloniant gyda’r DJ Owain Llyr, Côr yn canu ‘Yma O Hyd’ cyn y gêm, bar ac amrywiaeth o fyrgyrs a pizzas bendigedig 1891 ar werth, gall y cefnogwyr fwynhau’r gemau mewn steil.

Bydd y digwyddiadau parth ffan yn cael eu cynnal ddydd Llun 21 Tachwedd – yn wynebu UDA a dydd Mawrth 29 Tachwedd – yn wynebu Lloegr. Bydd y ddwy gêm yn cychwyn am 7pm a bydd y drysau’n agor am 6pm. Pris mynediad fydd £2 wrth y drws.

Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych Cyf, Jamie Groves “Rydym i gyd wedi arfer gwylio Cwpan y Byd yn ystod misoedd cynnes yr haf, felly bydd digwyddiad y mis nesaf yn Qatar yn rhywbeth gwahanol i’r rhan fwyaf o gefnogwyr pêl-droed. Rydym yn gyffrous iawn i gynnal dau ddigwyddiad parth cefnogwyr yn Neuadd y Dref y Rhyl, gan ei fod yn lleoliad dan do perffaith i fwynhau pêl-droed penigamp. Mae gennym ni bopeth sydd ei angen arnoch ar gyfer yr achlysur perffaith, ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at greu awyrgylch gwych i’n cwsmeriaid, a chynnal digwyddiad y bydd pawb yn ei fwynhau!”