Mae Hamdden Sir Ddinbych Cyf yn gyffrous i gyhoeddi y byddant yn croesawu Siôn Corn a’i Gorachod y mis Rhagfyr hwn yn Ninja TAG Rhyl i ledaenu hwyl y Nadolig y tymor Nadoligaidd hwn.

Bydd Ninja TAG Rhyl yn cael ei drawsnewid yn rhyfeddod Nadoligaidd, gyda groto clyd lle bydd Siôn Corn yn croesawu plant am brofiad hudolus i’w gwrdd â ‘i gyfarch lle gallant ddweud wrth y dyn ei hun beth sydd ar eu rhestr o ddymuniadau y Nadolig hwn.

Bydd Siôn Corn a’i Gorachod yn Ninja TAG bob Dydd Sadwrn a Dydd Sul ym mis Rhagfyr yn ogystal â Dydd Mercher 22ain a Dydd Iau 23ain i gwrdd â chyfarch plant ag anrheg.

Bydd plant yn mynd i ysbryd yr ŵyl trwy rasio Corachod Siôn Corn mewn cystadleuaeth gyfeillgar ‘Rasiwch y Corachod’ yn ceisio curo sgôr Siôn Corn yn arena NinjaTAG.

Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych Cyf: “Rydyn ni’n falch iawn o allu cynnal y fath amrywiaeth o ddigwyddiadau’r tymor Nadoligaidd hwn! Ar ôl y rhwystrau i gyd y llynedd oherwydd y pandemig, rydyn ni wedi ceisio ein gorau glas i roi cyfle i bawb fwynhau ysbryd y Nadolig trwy gynnal y digwyddiadau arbennig hyn. Rydyn ni eisiau creu atgofion, ac mae’r digwyddiadau hyn yn ffordd berffaith o ddathlu’r Nadolig gyda’r teulu cyfan. Rydym yn edrych ymlaen at groesawu preswylwyr ac ymwelwyr i SC2 yn Y Rhyl. ”

Mae lleoedd yn gyfyngedig ar gyfer y digwyddiadau hyn, ac anogir i archebu ymlaen llaw i osgoi cael eich siomi.

Mae’r digwyddiadau Nadolig ar agor i bob oedran. Am ragor o wybodaeth ac i archebu’ch lle ewch i ninjatag-rhyl.co.uk/cy/digwyddiadau/