Mae Hamdden Sir Ddinbych Cyf yn dathlu ar ôl buddugoliaeth yn yr Eisteddfod i’w gweithiwr fydd yn ei gweld hi’n cynrychioli Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad yr haf hwn.

Enillodd Leah Thomas, Swyddog Cyfathrebu a’r Cyfryngau Cymraeg, y wobr gyntaf yn Eisteddfod yr Urdd fel rhan o Gôr Aelwyd Dyffryn Clwyd.

Bu’r côr, a sefydlwyd yn 2019, yn canu ‘Un Ydym Ni’ yn Eisteddfod yr Urdd ddydd Sadwrn diwethaf a byddant nawr yn cynrychioli Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad fis Gorffennaf ym Mirmingham.

Roedd y fuddugoliaeth hon yn arbennig iawn i’r grŵp, gyda chyn-aelod arbennig o’r côr yn eu meddyliau, Gruff, a fu farw yn 2020. Dywedodd yr arweinydd Ceri Roberts, a oedd mewn dagrau yn dilyn y perfformiad, mai dyma’r gorau i’r côr erioed canu’r gân hon a bod y perfformiad hwn iddo fo.

Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych Cyf: “Rydym yn falch iawn o Leah, a’i chôr o Ddinbych, am ennill y safle 1af yn yr Eisteddfod yn ogystal â chynrychioli Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad. Mae’r Iaith Gymraeg yn bwysig iawn i Hamdden Sir Ddinbych Cyf ac mae cael rôl Leah yn y cwmni yn hollbwysig er mwyn sicrhau bod ein holl farchnata, arwyddion a chyfathrebu yn diwallu anghenion ein cymunedau lleol. Llongyfarchiadau Leah, roedd y perfformiad yn arbennig ac rydyn ni’n gwybod y byddwch chi’n gwneud Cymru’n falch yng Ngemau’r Gymanwlad, rydyn ni’n edrych ymlaen at eich gweld chi a’ch côr yn y gemau!”

Ysgrifennodd Prifathro Ysgol y Llys, Dyfan Mael Phillips, gerdd arbennig i’r côr hefyd yn dilyn eu perfformiad ysblennydd.

Os hoffech chi wylio Aelwyd Dyffryn Clwyd yn perfformio eu perfformiad buddugol o ‘Un Ydym Ni’, cliciwch ar y ddolen isod: https://youtu.be/4cC4UfbwGYY