Mae Hamdden Sir Ddinbych yn dathlu ar ôl i un o’u tîm fod yn rhan o gêm bêl-droed i ferched wnaeth dorri record yn CPD Wrecsam a gefnogir gan Ryan Reynolds.

Roedd Del Morgan, sy’n gweithio i’r tîm Cymunedau Bywiog Hamdden Sir Ddinbych yn chwarae yn y gôl fel rhan o ddiwrnod torri record ar Gae Ras Wrecsam, wrth i 9,511 o gefnogwyr wylio’r gêm derfynol tymor Genero Adran North 2022/23 rhwng CPD Merched Wrecsam a Nomads Cei Connah. 

Yn chwarae yn y gôl i Wrecsam, llwyddodd tîm Del i ennill a dod yn Bencampwyr.   I goroni’r cyfan, llongyfarchodd Ryan Reynolds Ferched CPD Wrecsam ar chwarae ‘yn anhygoel’ i ennill y teitl.   Roedd y seren Hollywood 46 oed, sydd yn gyd-berchen ochr Cymru CPD Wrecsam gyda chyd actor Rob McElhenney ers 2021, yn ddathlu’r clwb i ferched yn mynd â theitl Genero Adran North adref dros y penwythnos. 

Dywedodd Del Morgan, Cydlynydd Prosiect Chwaraeon Cymunedol tîm Cymunedau Bywiog Hamdden Sir Ddinbych:  “Roedd y gêm yn hysbyseb wych ar gyfer pêl-droed i ferched, o ran ansawdd y gêm a phresenoldeb anhygoel o 9511. Bydd y profiad yn un o brofiadau pêl-droed gorau fy mywyd ac ni fyddaf byth yn ei anghofio.   Rwy’n falch o chwarae i CPD Wrecsam ac yn gyffrous am yr hyn sydd i ddod yn y dyfodol.”

Meddai Rheolwr Gyfarwyddwr HSDd, Jamie Groves: “Rydym yn hynod falch o berfformiad Del a’r tîm cyfan yn Wrecsam.   Mae Del yn aelod gwych o’r tîm sy’n ysbrydoli menywod a merched ar draws y wlad i ymuno â phêl-droed.   Rydym mor falch o’i chyfraniad at CPD Wrecsam ac yn dymuno’r gorau iddi yn y gemau nesaf!”

Roedd y clwb merched wedi ennill yr 11eg gêm yn y gynghrair ar ddechrau mis Mawrth, gan sicrhau’r fuddugoliaeth a chododd y Dreigiau Coch y tlws pan ddaeth tymor y gynghrair i ben ddydd Sul.   Roedd y pencampwyr wedi ennill Nomads Cei Connah 2-1 yn y Cae Ras. 

Roedd Del wedi dod drwy academi bêl-droed Lerpwl.   Roedd ei pherfformiadau cyson i Gymru ar lefel o dan 19 hyd yn oed wedi arwain at symud i dîm Cynghrair Merched Everton yn 2015.  Roedd wedi arwyddo i chwarae i Wrecsam am yr ail dro yn 2021.   Mae hefyd yn hyfforddwr hynod gymwys ac uchel ei pharch, mae ganddi Drwydded Gôl-geidwad A UEFA ac mae’n hyfforddwr gôl-geidwaid Merched Dan 19 Cymru. 

Mae’r tîm Cymunedau Bywiog HSDd yn cynnal nifer o fentrau chwaraeon i’r cyhoedd gymryd rhan, am fwy o wybodaeth ewch i https://www.denbighshireleisure.co.uk/activecommunities