Ers sawl blwyddyn, mae Theatr y Pafiliwn, y Rhyl, wedi bod yn ffodus iawn o fwynhau cefnogaeth ac ymrwymiad Cyfeillion Theatr y Pafiliwn, cymdeithas wirfoddol, sy’n cynnwys pobl o bob math o gefndiroedd, sydd wedi dod at ei gilydd trwy angerdd dros theatr a’r celfyddydau. 

Trwy eu gweithgareddau codi arian, sydd wedi cynnwys nifer o ddigwyddiadau cymdeithasol fel boreau coffi a chwisys, mae’r Cyfeillion wedi gallu cefnogi Theatr y Pafiliwn gyda sawl agwedd ar eu gweithrediadau – hyrwyddo, rheoli llwyfan, materion technegol ac arlwyo, gan enwi dim ond rhai ohonynt. 

Dros y blynyddoedd, mae’r Cyfeillion wedi noddi amrywiaeth o bethau ymarferol, fel hysbysfyrddau a chadeiriau olwyn, ac wedi ariannu eitemau mwy fel goleuadau deallus a llenni llwyfan.  Mae’r theatr hefyd wedi elwa o’u cyfraniad at brosiectau ailaddurno yn yr awditoriwm a’r ystafelloedd gwisgo.  Nid dim ond cefnogaeth ariannol maen nhw wedi’i darparu fodd  bynnag, ac ar nifer o achlysuron, mae aelodau’r grŵp wedi gwirfoddoli i ddarparu cymorth ymarferol mewn meysydd fel gwerthu rhaglenni neu roi taflenni mewn amlenni ac ati.  Ers iddynt ddechrau, mae’r Cyfeillion wedi gwneud popeth a allant i hyrwyddo Theatr y Pafiliwn.

Yn ddiweddar, cyhoeddodd y grŵp Cyfeillion eu penderfyniad i ddod â’r Gymdeithas i ben ym mis Rhagfyr 2021.  Er bod hyn yn newyddion trist iawn mewn sawl ffordd, hoffai tîm Theatr y Pafiliwn fynegi eu diolch am flynyddoedd lawer o deyrngarwch gwych a ddangoswyd gan y Cyfeillion.  Mae’r tîm hefyd yn falch bod nifer o’r gwirfoddolwyr sydd wedi bod yn rhan o’r grŵp Cyfeillion wedi penderfynu parhau yn eu rolau gyda’r Theatr, a byddant yn parhau i ddarparu’r gefnogaeth hollbwysig.

Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych Cyf, “Hoffai Hamdden Sir Ddinbych Cyfyngedig, ac yn benodol ein tîm yn Theatr y Pafiliwn, y Rhyl, ddiolch i holl aelodau’r grŵp Cyfeillion, rhai’r gorffennol a rhai presennol, am yr ymrwymiad gwych a’r gwaith caled maen nhw wedi’i ddangos dros y blynyddoedd.  Nid oes amheuaeth bod y grŵp wedi chwarae rhan fawr wrth feithrin enw da rhagorol y Pafiliwn ym myd y Celfyddydau, a byddwn ni’n hiraethu’n fawr am eu presenoldeb y tu ôl i’r llenni.”

Dywedodd Dave Simmons, cyn Gadeirydd y grŵp Cyfeillion, “Ar ôl gwneud y penderfyniad anodd i ddod â grŵp Cyfeillion Theatr y Pafiliwn i ben, rydym yn edrych yn ôl ar ein cyflawniadau ar ran y theatr gyda balchder mawr.  Fel ased pwysig iawn i’r Rhyl a’r gymuned Celfyddydau ehangach, rydym wrth ein bodd bod ein gwaith gyda Theatr y Pafiliwn wedi helpu i ddod â mwynhad i gynifer o bobl, a helpu i gynnal y safonau uchel mae wedi dod yn adnabyddus amdanynt.”

Mae gan Theatr y Pafiliwn gymuned weithgar iawn o wirfoddolwyr, ac mae Hamdden Sir Ddinbych Cyfyngedig yn bwriadu parhau â hyn.  Mae nifer o rolau gwirfoddolwyr ar gael gennym, a gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn cymryd rhan gysylltu â ni trwy ein tudalen i wirfoddolwyr ar y wefan denbighshireleisure.co.uk/cy/gwirfoddoli/