Dros yr wythnosau nesaf, bydd Hamdden Sir Ddinbych Cyf yn goleuo adeiladau i gefnogi Apêl Pabi blynyddol y Lleng Prydeinig Brenhinol.

Bydd Canolfan Grefft Rhuthun, Tŵr Awyr y Rhyl, Theatr Pafiliwn y Rhyl, Bwyty a Bar 1891 a rhaeadr yr Arena Digwyddiadau i gyd yn cael eu goleuo yn goch i Apêl y Pabi Coch 2022.

Mae’r Lleng Prydeinig Brenhinol yn gweithio fel rhwydwaith cenedlaethol sy’n cefnogi cymuned ein Lluoedd Arfog, gan sicrhau nad yw eu cyfraniad unigryw byth yn cael ei anghofio.

Y Lleng Prydeinig Brenhinol yw elusen Lluoedd Arfog fwyaf y wlad, gyda 180,000 o aelodau, 110,000 o wirfoddolwyr a rhwydwaith o bartneriaid ac elusennau, ac maent yn darparu cymorth lle bynnag a phryd bynnag y mae ei angen. Bob blwyddyn mae Apêl y Pabi yn helpu i godi arian hanfodol i’w helpu i barhau â’u gwaith hanfodol; o ddarparu cyngor arbenigol i gymorth ar sut i ymdopi ac adsefydlu a llawer mwy.

Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych Cyf “Mae’r Lleng Prydeinig Brenhinol yn darparu cefnogaeth gydol oes i bersonél sy’n gwasanaethu a chyn-aelodau o’r lluoedd arfog a’u teuluoedd, ac mae Apêl y Pabi yn eu galluogi i wneud gwahaniaeth gwirioneddol a chadarnhaol i fywydau pobl. Mae cyfrannu at Apêl y Pabi eleni yn caniatáu i ni ddangos ein bod yn poeni am fywydau ein Cymuned Lluoedd Arfog a thalu teyrnged iddynt. Byddwn yn goleuo ein hadeiladau drwy gydol yr Apêl, i ddangos ein cefnogaeth i waith y Lleng Prydeinig Brenhinol, ac i annog eraill i wneud yr un peth. ”