Bydd Hamdden Sir Ddinbych Cyf yn goleuo ei atyniadau i gefnogi’r gofal anhygoel a roddir gan hosbisau i deuluoedd sy’n dioddef ledled y wlad.

Mae Wythnos Gofal Hosbis, sy’n rhedeg o Ddydd Llun 4ydd – 8fed Hydref, yn dathlu’r gwasanaeth a ddarperir gan staff a gwirfoddolwyr ymroddedig hosbisau, wrth gefnogi unigolion a theuluoedd ar adeg pan maent ei angen fwyaf.

Bydd Canolfan Grefft Rhuthun, Twr Awyr Y Rhyl, Theatr Pafiliwn Y Rhyl, Bwyty a Bar 1891, rhaeadr yr Arena Digwyddiadau a mannau aros bysiau arfordirol Sir Ddinbych i gyd wedi’u goleuo’n wyrdd dros bedwar diwrnod i gefnogi’r gwaith hanfodol hwn.

Nod gofal hosbis yw gwella ansawdd bywyd a lles oedolion a phlant sydd â chyflwr sy’n cyfyngu eu bywydau. Mae’n helpu pobl i fyw bywyd cyfforddus gymaint â phosib hyd ddiwedd eu hoes, pa bynnag mor hir y bo hynny.

Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych Cyf “Rydym yn hynod ddiolchgar i’r nifer fawr o staff hosbis a gwirfoddolwyr ledled y wlad, sy’n ymroi eu gyrfaoedd i wella ansawdd bywyd a lles pawb sydd â chyflyrau sy’n cyfyngu ar eu bywyd.

Yn Hamdden Sir Ddinbych rydym yn falch o oleuo ein hatyniadau i gydnabod Wythnos Gofal Hosbis ac i helpu i godi ymwybyddiaeth o’r ymroddiad rhagorol sy’n mynd i ofalu am unigolion a’u teuluoedd ar ddiwedd oes.”