Fe fydd Hamdden Sir Ddinbych (HSDd) yn goleuo eu hatyniadau fis Mawrth i daflu goleuni ar Gancr y Prostad, yn ogystal â chynnal cyfres o weithgareddau ar draws eu safleoedd hamdden a chlybiau ffitrwydd.

Yng Nghymru, bydd 1 mewn 8 o ddynion yn cael cancr y prostad ar ryw adeg yn eu bywydau, ac mae tîm HSDd yn ceisio codi ymwybyddiaeth yn ystod mis Mawrth.

Fe fydd y tîm yn codi arian drwy ddosbarthiadau ffitrwydd arbennig, ymgyrch ar gyfryngau cymdeithasol, coffi a theisen yng nghaffis ‘Refuel’ yn ein clybiau ffitrwydd, gwisgo glas ar draws y sir a thrwy oleuo Theatr Pafiliwn y Rhyl, bwyty 1891 a’r bar, y ‘SkyTower’, SC2 y Rhyl, a Chanolfan Grefft Rhuthun rhwng 5 ac 11 Mawrth.

Meddai Rheolwr Gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych, Jamie Groves: “Dyma achos gwych i’w gefnogi ac mae HSDd yn gwneud pob ymdrech i ledaenu ymwybyddiaeth am Gancr y Prostad fis Mawrth yma.  Her gamau dros y we’ yw ‘March the Month’ rydym ni’n ei gyflwyno i’n clybiau a safleoedd hamdden, i unrhyw un sydd eisiau cadw’n heini a helpu i guro cancr y prostad.   Fe allwch chi ymuno â miloedd o bobl ar draws y wlad, sydd yn ymrwymo i gerdded 11,000 o gamau neu deithio’r hyn sydd gyfystyr ag 11,000 o gamau y dydd ar olwynion, drwy gydol mis Mawrth.   Ymunwch â’n dosbarthiadau, gwisgwch las a rhannwch y neges fis Mawrth yma, fe allai helpu i achub bywyd!”

Mae rhagor o wybodaeth am yr ymgyrch ar gael ar sianeli cyfryngau cymdeithasol HSDd ar Facebook: Mae @DenbighshireLeisure a X @DenbighshireL. yn taflu goleuni ar Gancr y Prostad ym mis Mawrth gyda chyfres o weithgareddau ar draws y busnes.