HSDdCyf yn croesawu miloedd o bunnoedd ar gyfer clybiau a sefydliadau lleol
Mae’r cwmni wedi derbyn £430,000 gan Gyngor Sir Ddinbych, trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, i weinyddu’r cynllun
Bydd y grant yn rhoi cyfle i sefydliadau a chlybiau llai yn Sir Ddinbych ymgeisio am gyllid i gefnogi gweithgareddau megis perfformiadau cerddoriaeth a theatr, cyllid ar gyfer arddangosfeydd lleol a chefnogaeth ar gyfer rhaglenni allgymorth.
Gall sefydliadau elwa o gyllid cyfalaf a refeniw i ailwampio neu gynnal cyfleusterau chwaraeon presennol neu gefnogi cynghreiriau cymunedol neu leoliadau a gweithgareddau celfyddydol cymunedol. Croesawir ceisiadau ar gyfer cyllid o ddydd Llun, 13 Tachwedd.
Mae grwpiau chwaraeon gwirfoddol a chymunedol, sefydliadau cymunedol a chlybiau chwaraeon dielw, Cynghorau Plwyf a Thref, elusennau sy’n darparu gwasanaethau a chymorth lleol (gan gynnwys grwpiau lifrai) ac ysgolion a sefydliadau addysg yn gymwys i wneud cais.
I fod yn gymwys mae’n rhaid ichi ddangos sut fydd y prosiect yn hybu un o amcanion y Gronfa Ffyniant Gyffredin:
- Cefnogaeth ar gyfer gweithgareddau creadigol, treftadaeth, diwylliannol a chelfyddydau lleol.
- Cyllid ar gyfer cyfleusterau chwaraeon, twrnameintiau, timau a chynghreiriau lleol; i ddod â phobl at ei gilydd.
Meddai Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr HSDd, “mae HSDd yn parhau i ymrwymo i gefnogi cymunedau lleol, a disgwyliwn y bydd y cynllun hwn yn cael effaith sylweddol, yn arbennig o ystyried yr hinsawdd economaidd sydd ohoni. Mae Cymuned yn un o bileri’r cwmni, ac mae helpu i gynnal cyfranogiad cymunedol ac isadeiledd clybiau’n parhau i fod yn flaenoriaeth i HSDd. Gyda chyllid gan Lywodraeth y DU a chefnogaeth CSDd, bydd y grant yn galluogi HSDd i helpu i gynnal grwpiau trydydd sector, chwaraeon a sefydliadau diwylliannol.”
Mae grantiau rhwng £2,000 a £20,000 a grant refeniw rhwng £500 a £20,000 ar gael. NI CHAIFF CYFANSWM y cais, fodd bynnag, fod yn FWY NA £20,000.
Bydd y rownd ariannu cyntaf, ar gyfer cyllid cyfalaf yn unig, yn agor ddydd Llun, 13 Tachwedd ac yn cau ar 11 Rhagfyr 2023. Bydd yr ail rownd yn agor ym mis Ionawr, a bydd modd ymgeisio am gyllid cyfalaf a/neu refeniw.
Gallwch wneud cais ar-lein drwy lawrlwytho ffurflen gais o’r wefan. Bydd angen dychwelyd y ffurflen wedyn i activecommunities@denbighshireleisure.co.uk neu drwy’r post i’r Tîm Cymunedau Bywiog, Hamdden Sir Ddinbych, 8-11 Trem y Dyffryn, Stad Ddiwydiannol Colomendy, Dinbych LL16 5TX.
Am ragor o wybodaeth, gan gynnwys telerau ac amodau llawn y grant, ymwelwch â’n gwefan https://denbighshireleisure.co.uk/cy/dll-community-grant-scheme-2/
Llwyddodd DLL hefyd i dderbyn cyllid drwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin i gyflwyno rhaglen Celfyddydau Creadigol. Bydd y Rhaglen Celfyddydau Creadigol yn gweithio gyda phartneriaid trydydd sector allweddol a phartneriaid cymunedol ac iechyd i gyflwyno rhaglen gyfranogol celfyddydau mewn iechyd a lles mewn lleoliadau cymunedol, gofal cymdeithasol ac iechyd. Cyfanswm y cyllid a dderbyniwyd gan DLL ar gyfer y ddau brosiect oedd £584,000
Nodiadau i Olygyddion
Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn biler canolog i raglen Ffyniant Bro Llywodraeth y DU ac mae’n darparu £2.6 biliwn o arian ar gyfer buddsoddiad lleol erbyn mis Mawrth 2025. Nod y Gronfa yw gwella balchder mewn lleoedd a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y DU, drwy fuddsoddi mewn cymunedau a lleoedd, cefnogi busnesau lleol, a phobl a sgiliau. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: https://www.gov.uk/government/publications/uk-shared-prosperity-fund-prospectus.cy