Mae’r gantores, cyfansoddwr ac offerynnwr Gwyddelig Imelda May wedi cyhoeddi dyddiad newydd i’w thaith perfformio yn 2022 yn Theatr Pafiliwn Y Rhyl i ddathlu lansiad ei chweched albwm stiwdio 11 Past the Hour.

Yn adnabyddus am ei steil gerddorol o adfywiad rockabilly, mae May wedi cael ei chymharu â cherddor jazz Billie Holiday ac wedi cydweithio â chantorion gan gynnwys Noel Gallagher a Ronnie Wood o The Rolling Stones ar Just One Kiss o’i halbwm newydd 11 Past the Hour.

Bydd y cyngerdd mae pawb wedi bod yn disgwyl amdano ar 2il Ebrill 2022 ac mae tocynnau cyn-gwerthiant yn mynd ar werth Dydd Mercher 29ain Medi, 2021 am 10yb ar wefan Pafiliwn Y Rhyl.

Dywedodd Pablo Janczur, Cyfarwyddwr yr hyrwyddwr cyngherddau yng Nghaerdydd, Orchard Live: “Rydyn ni mor gyffrous i ddod ag Imelda May i Ogledd Cymru am noson i’w chofio. Bydd tocynnau pecyn Arian ac Aur yn caniatáu i bobl gael mynediad VIP cynnar i Theatr y Pafiliwn a bydd deiliaid tocynnau Aur yn gallu cymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb gydag Imelda ei hun, sy’n wych! ”

Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych Cyf: “Rydym yn hynod lwcus yn Hamdden Sir Ddinbych i allu croesawu talent o’r fath i’n hawditoriwm yn y Pafiliwn gydag Imelda May. Mae’r awyrgylch yn y Theatr yn ddigyffelyb ac oherwydd hyn, mae perfformwyr yn dewis Y Rhyl ar gyfer eu perfformiadau ac mae’n wych i weld”.

Mae’r tocynnau cynnar yn mynd ar werth 10yb Dydd Mercher 29ain Medi trwy rhylpavilion.co.uk. Bydd gweddill y tocynnau yn mynd ar werth 10yb Dydd Iau YMA 30ain Medi.

Mae pecynnau VIP Arian ac Aur ar gael trwy Swyddfa Docynnau Pafiliwn y Rhyl trwy ffonio 01745 330000.

Gellir archebu tocynnau safonol ar-lein trwy https://www.rhylpavilion.co.uk/events_list/imelda-may-made-to-love-tour/.