Mae Jack Savoretti, sydd newydd lansio’i sengl newydd anhygoel, The Way You Said Goodbye, wedi cyhoeddi y bydd yn perfformio sioe unigryw yng Ngogledd Cymru yn Arena Digwyddiadau awyr agored Y Rhyl ar Orffennaf 9fed 2022.

Bydd Savoretti yn cael ei gefnogi gan neb llai na Brenhines miwsig yr enaid, Beverley Knight, un nad yw’n ddieithr i berfformio ar lwyfan, gyda sawl albwm yn cyrraedd y 10 safle uchaf yn y siartiau gan gynnwys yr albwm platinwm Voice: The Best of Beverley Knight. Aeth albwm diweddaraf y gantores enaid ‘Soulsville’ a ryddhawyd yn 2016 yn syth i siartiau Top 10 y DU. Yn fwy diweddar, mae Knight wedi ymddangos ar newyddion BBC ac ITV gyda’i dychweliad i lwyfan y West End i chwarae rhan Faye Treadwell mewn sioe gerdd newydd, The Drifters Girl.

Perfformiodd Jack Savoretti ddiwethaf yng Ngogledd Cymru i gymeradwyaeth anferthol wrth gefnogi Paloma Faith yng Ngorffennaf 2018.

Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych Cyf: “Rydyn ni wrth ein bodd ein bod yn gallu cynnal penwythnos cyfan yn llawn dop o berfformwyr a thalent adnabyddus i drigolion lleol Sir Ddinbych a thu hwnt. Gyda James yn cychwyn y gyfres o gyngherddau, o flaen Jack Savoretti a Beverley Knight, a gyda Tom Grennan yn dod â’r penwythnos i ben, mae’n benwythnos na ddylid ei golli gyda rhywbeth i bawb.

“Mae Hamdden Sir Ddinbych Cyf yn gyffrous iawn i weithio gydag Orchard Live eto’r flwyddyn nesaf yn dilyn ymlaen o’r noson wych gyda Tom Jones yn Arena Digwyddiadau Y Rhyl. Mae’r Arena Digwyddiadau yn dod yn fwy a mwy poblogaidd gyda pherfformwyr poblogaidd, gyda’i leoliad unigryw ar lan y môr a rhwyddineb mynediad, mae’n lleoliad perffaith ar gyfer gwyliau cerddoriaeth. ”

Dywedodd Pablo Janczur o Orchard Live “Rydyn ni’n gyffrous iawn am ddychwelyd i’r Rhyl am benwythnos llawn o gerddoriaeth fyw. Yn dilyn llwyddiant Syr Tom Jones eleni, mae gennym linell wych gyda Jack Savoretti a chefnogaeth Beverley Knight rhwng James ar y Dydd Gwener a Tom Grennan ar y Dydd Sul, bydd yn benwythnos perffaith lawn cerddoriaeth yr haf nesaf! ”

Gall ffans gofrestru ar gyfer tocynnau cynnar yma: https://mailchi.mp/orchardlive.com/jack-savoretti-presale. Bydd tocynnau cyffredinol yn mynd ar werth Ddydd Gwener 10fed Rhagfyr am 10am ar wefan Theatr y Pafiliwn Rhyl a Gigantic.com.

Mae’r sioe yn cwblhau penwythnos llawn dop o gyngherddau a gynhyrchwyd gan Orchard Live mewn partneriaeth â Hamdden Sir Ddinbych Cyf gyda’r band James yn cychwyn yr ŵyl gerddoriaeth ar Orffennaf 8fed, gyda chefnogaeth The Lightening Seeds & The Ks. Yn ogystal â seren bop Tom Grennan yn dod â’r penwythnos i ben ar Orffennaf 10fed. Mae tocynnau ar gyfer y ddwy sioe ar werth nawr o wefan Gigantic.com a Theatr y Pafiliwn Rhyl.