Mae Hamdden Sir Ddinbych yn ychwanegu rhagor o ddosbarthiadau at eu rhaglen Clubbercise hynod boblogaidd ar ôl lansiad llwyddiannus ar draws 4 safle.

Mae llwyddiant aruthrol Clubbercise yn Rhuthun a Nova wedi arwain at ychwanegu 5 dosbarth  mewn 4 o ganolfannau. Mae rhestrau aros wedi’u hagor ar gyfer dosbarthiadau yn Llangollen sydd yn llawn ac mae’r dosbarthiadau yn Nova hefyd yn llawn bob wythnos.

Gan ddod â naws noson allan i’ch sesiynau ymarfer, mae Clubbercise yn gymysgedd perffaith o hwyl a ffitrwydd. Mae’r dosbarthiadau, sy’n addas ar gyfer pob lefel o ffitrwydd, yn cael eu cynnal mewn ystafell dywyll gyda goleuadau disgo a ffyn golau Clubbercise, gyda’r ymarferion dawns i gyd wedi’u gosod i anthemau clwb a chaneuon dawns clasurol y 90au.

Mae dosbarthiadau ar gael yn Rhuthun, Dinbych, Llangollen a’r Nova. Mae’r rhain wedi cynnwys gydag aelodaeth o Hamdden Sir Ddinbych ac yn rhoi cyfle i bobl gynyddu ei ffitrwydd a chael hwyl ar yr un pryd bob diwrnod o’r wythnos.

Meddai Rheolwr Gyfarwyddwr HSDd, Jamie Groves: “Rydym wrth ein bodd gallu rhoi’r profiad gwych hwn i’n haelodau mewn pedwar lleoliad ar draws sir Ddinbych. Mae’r ffaith fod brand rhyngwladol fel Clubbercise yn ymddiried yn HSDd yn anrhydedd ac allwn ni ddim aros i’n haelodau brofi’r dosbarthiadau cwbl unigryw hyn. Ers lansiad Clubbercise mae’r dosbarthiadau wedi bod yn llawn ac mae rhestrau aros wedi’u hagor yn Llangollen a Nova ar gyfer pobl sydd eisiau mynd i’r dosbarthiadau. Dim ond mater o amser yw hi tan y bydd Clubbercise ar gael mewn rhagor o’n safleoedd!”

Yn ddiweddar agorodd HSDd Glwb Dinbych sef y trydydd o’u brand Clwb eithriadol. Mae Clwb Nova, X20 Llanelwy a nawr Clwb Dinbych yn glybiau o’r radd flaenaf lle ceir yr offer ymarfer diweddaraf, dosbarthiadau arbennig, Clwb Seiclo a chaffis Costa Coffee.

Gall aelodau archebu lle wythnos ymlaen llaw ar ap HSDd a gall pobl sydd ddim yn aelodau dalu fesul dosbarth. Am ragor o wybodaeth ewch i: https://denbighshireleisure.co.uk/cy/dll-clubbercise-wel/