Mae Hamdden Sir Ddinbych Cyf yn goleuo ei atyniadau mewn pinc a glas i gefnogi Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Babi.

Bydd Canolfan Grefft Rhuthun, Twr Awyr Y Rhyl, Theatr Pafiliwn Y Rhyl, Bwyty a Bar 1891, rhaeadr yr Arena Digwyddiadau a mannau aros bysiau arfordirol Sir Ddinbych i gyd yn cael eu goleuo’n binc a glas dros saith diwrnod mewn undod â’r teuluoedd sydd wedi colli babanod.

Mae Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Babi yn rhedeg rhwng Dydd Sadwrn 9fed a 15fed Hydref ac yn codi ymwybyddiaeth o’r materion allweddol sy’n wynebu’r rhai sydd wedi profi colled beichiogrwydd neu fabanod yn y DU. Trwy gydol yr wythnos, mae rhieni mewn profedigaeth, a’u teuluoedd a’u ffrindiau, yn uno ag eraill ledled y byd i goffáu bywydau babanod a gollwyd yn ystod beichiogrwydd, yn ystod eu genedigaeth neu’n fuan ar ôl eu geni, ac yn eu babandod.

Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych Cyf “Rydym yn goleuo ein hatyniadau yn Hamdden Sir Ddinbych Cyf i gefnogi pob un o’r teuluoedd sydd wedi profi colled drist babi, a hefyd i gydnabod gweithwyr iechyd ym mhobman sy’n gwneud eu gorau glas i ofalu am deuluoedd mewn profedigaeth.

“Hoffwn ddiolch i bawb a gysylltodd â ni am Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Babanod, a chymerodd llawer ohonynt yr amser i egluro eu hanes eu hunain a faint mae’r wythnos hon yn ei olygu iddyn nhw. Rydyn ni’n gobeithio y bydd yr holl deuluoedd hynny sydd wedi profi colli babi yn teimlo cysur a chefnogaeth wrth weld ein hatyniadau wedi’u goleuo mewn pinc a glas. ”

#HamddenSirDdinbychYdymNi